I7ATODLEN 5Y CATEGORÏAU O BERSON Y CANIATEIR EU HYCHWANEGU AT ATODLEN 6

(a gyflwynwyd gan adran 33)

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1

Colofn 2

Cofnod

Person/Categori

(1)

Awdurdodau cyhoeddus.

(2)

Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac a gafodd eu sefydlu drwy ddeddfiad.

(3)

Personau wedi eu sefydlu drwy offeryn uchelfreiniol—

  1. a

    i hybu dysg a gwybodaeth drwy addysgu neu ymchwilio neu drwy ddatblygu neu ddyfarnu cymwysterau,

  2. b

    i gasglu neu ddiogelu gwybodaeth gofnodedig, neu wrthrychau a phethau sy'n hybu dealltwriaeth, neu ddarparu mynediad at yr wybodaeth honno neu at y gwrthrychau a'r pethau hynny,

  3. c

    i gefnogi, gwella, neu hybu treftadaeth, diwylliant, chwaraeon neu weithgareddau hamdden, neu ddarparu mynediad atynt,

  4. d

    sy'n ymgymryd â hybu gwybodaeth ehangach am Gymru a chynrychioli buddiannau Cymru mewn gwledydd eraill, neu

  5. e

    sy'n ymgymryd â bancio canolog.

(4)

Personau y mae swyddogaethau darparu gwasanaethau i'r cyhoedd wedi eu rhoi iddynt neu wedi eu gosod arnynt drwy ddeddfiad.

(5)

Personau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n derbyn cyfanswm o £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol—

  1. a

    pan fo'r person hwnnw wedi cael arian cyhoeddus hefyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol, neu

  2. b

    pan fo penderfyniad wedi ei wneud y bydd yn cael arian cyhoeddus mewn blwyddyn ariannol ddilynol.

(6)

Personau sy'n goruchwylio rheoleiddiad proffesiwn, diwydiant neu gylch cyffelyb arall o weithgaredd.

(7)

Darparwyr tai cymdeithasol.

(8)

Personau sy'n cydsynio i gael eu pennu yn Atodlen 6.

I1I7I41I7Cofnod (5): diwygio drwy orchymyn

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio cofnod (5) yn y tabl drwy gyfnewid y swm perthnasol am unrhyw swm arall heb fod yn llai na £400,000.

2

Yn is-baragraff (1), ystyr “swm perthnasol” yw'r cyfanswm o arian cyhoeddus sydd o bryd i'w gilydd wedi ei nodi yng nghofnod (5) yn y tabl.

I2I7I52I7Cofnod (8): dehongli etc

At ddibenion cofnod (8) yn y tabl—

a

ystyr “cydsyniad” mewn perthynas â pherson yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru gan y person;

b

caniateir tynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny.

I3I7I63I7Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “arian cyhoeddus” (“public money”) yw—

    1. a

      arian y perir ei fod ar gael yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy—

      1. i

        Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

      2. ii

        Gweinidogion Cymru;

      3. iii

        Senedd y DU;

      4. iv

        Gweinidogion y Goron; neu

      5. v

        un neu ragor o sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd;

    2. b

      arian a ddarperir yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad;

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus” yw pob awdurdod cyhoeddus sy'n dod o fewn ystyr “public authority” yn adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.