ATODLEN 4AELODAU'R PANEL CYNGHORI
RHAN 1PENODI
1Penodi
1
Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penodi aelod o'r Panel Cynghori rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 5).
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.
2Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau
1
Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Panel Cynghori.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Panel Cynghori.
3
Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
a
pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy, a
b
symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Panel Cynghori, neu mewn cysylltiad â hwy.
3Telerau penodi
1
Mae aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
2
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.
4Cyfnod y penodiad
1
Mae person a benodir yn aelod o'r Panel Cynghori yn dal ei swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 3 blynedd.
2
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen hon.
5Rheoliadau Penodi
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau o'r Panel Cynghori (“rheoliadau penodi”).
2
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi yn cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (3) i (6), ond nid yw'n gyfyngedig iddi.
3
Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi aelod o'r Panel Cynghori.
4
Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch—
a
gwybodaeth o'r Gymraeg, a hyfedredd ynddi, a
b
gwybodaeth a phrofiad—
i
o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau yn eu cylch, a
ii
o unrhyw fater arall sy'n berthnasol i unrhyw beth sy'n dod i ran y Comisiynydd i'w wneud,
sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i aelod o'r Panel Cynghori feddu arno.
5
Caiff rheoliadau penodi—
a
cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu
b
gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.
6
Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.