ATODLEN 2YMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD
I1I27Sylwadau
1
Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad—
a
gan berson—
i
a bennir yn y cylch gorchwyl, neu
ii
sy'n dod o fewn categori o berson a bennir yn y cylch gorchwyl, neu
b
gan gynghorydd cyfreithiol sy'n gweithredu ar ran person sy'n dod o fewn paragraff (a)(i) neu (ii), neu
c
gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i'r Comisiynydd ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag ymholiad gan unrhyw berson arall, onid yw'n briodol, yn nhyb y Comisiynydd, i wrthod gwneud hynny.
3
Os yw'r Comisiynydd yn gwrthod ystyried sylwadau a gyflwynir mewn perthynas ag ymholiad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am y canlynol i'r person a gyflwynodd y sylwadau—
a
y penderfyniad i wrthod ystyried y sylwadau, a
b
y rhesymau dros y penderfyniad.
4
Yn y paragraff hwn ystyr “cynghorydd cyfreithiol” yw—
a
person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, yn berson awdurdodedig, neu'n gyfreithiwr Ewropeaidd sy'n berson esempt yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, mewn perthynas â gweithgaredd sy'n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno), a
b
adfocad neu gyfreithiwr yn yr Alban.