Eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r BwrddLL+C
2(1)Heb ragfarnu paragraff 1, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ynghylch eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd.
(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—
(a)trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
(i)i'r Comisiynydd, neu
(ii)i Weinidogion Cymru;
(b)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd i gael effaith yn ddarostyngedig i eithriadau neu neilltuadau;
(c)trosglwyddo eiddo, hawliau neu rwymedigaethau i gael effaith er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (beth bynnag ei natur) a fyddai fel arall yn atal neu'n cyfyngu ar y trosglwyddo;
(d)creu buddiannau yn eiddo'r Bwrdd neu eiddo a drosglwyddir oddi wrth y Bwrdd, neu hawliau dros yr eiddo hwnnw;
(e)creu hawliau a rhwymedigaethau—
(i)rhwng y Bwrdd a'r Comisiynydd, neu
(ii)rhwng y Bwrdd a Gweinidogion Cymru.
(3)Yn y paragraff hwn—
mae “eiddo” (“property”) yn cynnwys eiddo a leolir y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
mae “hawliau a rhwymedigaethau” (“rights and liabilities”) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau sy'n deillio mewn modd arall ac eithrio o dan gyfraith Cymru a Lloegr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(d)