xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 01/04/2012

ATODLEN 11LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Valid from 07/01/2014

RHAN 4LL+CANGHYMHWYSO RHAG BOD YN AELOD NEU RHAG CAEL EI BENODI

Anghymhwyso rhag bod yn aelod: cyflogaethLL+C

13(1)Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth—

(a)os yw'r person yn Aelod Seneddol;

(b)os yw'r person yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)os yw'r person yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;

(d)os yw'r person yn aelod o staff Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(e)os ef yw'r Comisiynydd;

(f)os ef yw'r Dirprwy Gomisiynydd;

(g)os yw'r person yn unrhyw aelod arall o staff y Comisiynydd; neu

(h)os yw'r person yn briod â pherson, neu'n bartner sifil i berson, sy'n dod o fewn paragraff (e), (f) neu (g).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 13 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Anghymhwyso rhag bod yn aelod: anaddasrwyddLL+C

14(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—

(a)wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;

(b)wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;

(c)wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;

(d)wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;

(e)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu

(f)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—

(a)hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu

(b)hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.

(3)At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—

(a)hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu

(b)os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.

(4)Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 11 para. 14 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Anghymhwyso rhag penodi: oedranLL+C

15Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys os yw'r person eisoes wedi cyrraedd 70 oed ar ddyddiad y penodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 11 para. 15 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Anghymhwyso rhag penodi: penodiad blaenorolLL+C

16(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n Llywydd am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

(2)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o'r Tribiwnlys wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod lleyg ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod lleyg am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 11 para. 16 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Anghymhwyso rhag penodi: diswyddiad blaenorol o swyddLL+C

17Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys ar sail diswyddiad blaenorol os yw Gweinidogion Cymru wedi diswyddo'r person o'r Tribiwnlys yn flaenorol o dan baragraff 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 11 para. 17 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)