ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 4ANGHYMHWYSO RHAG BOD YN AELOD NEU RHAG CAEL EI BENODI

I114Anghymhwyso rhag bod yn aelod: anaddasrwydd

1

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—

a

wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;

b

wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;

c

wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;

d

wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;

e

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu

f

wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—

a

hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu

b

hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.

3

At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—

a

hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu

b

os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.

4

Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.