xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 120)

ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 1NIFER AELODAU'R TRIBIWNLYS

Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith

1(1)Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ddyfarnu nifer yr aelodau sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith y mae'r Tribiwnlys i'w cael.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.

(3)I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau o'r Tribiwnlys ac sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.

Aelodau lleyg

2(1)Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd bennu nifer yr aelodau lleyg y mae'r Tribiwnlys i'w cael.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn pennu'r nifer hwnnw.

(3)I'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod nifer y personau sy'n gwasanaethu fel aelodau lleyg o'r Tribiwnlys yn hafal i'r nifer a bennir o dan y paragraff hwn.

RHAN 2PENODI

Y Llywydd

3(1)Dim ond os yw'r person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd—

(a)yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd, a

(b)unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn Llywydd os yw'r person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

(b)wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n Llywydd ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

(3)Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 10 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).

Aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith

4(1)Dim ond os yw person yn bodloni'r canlynol y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith—

(a)yr amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd,

(b)unrhyw amodau eraill sy'n gymwys i'r penodiad ac a bennir yn y rheoliadau penodi.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith os yw'r person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd, neu

(b)wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol.

(3)Mae Rhan 2 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 yn gymwys ar gyfer dyfarnu a yw person yn bodloni'r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd fel pe bai'r paragraff hwn yn ddarpariaeth statudol (o fewn ystyr adran 50 o'r Ddeddf honno).

Aelodau lleyg

5(1)Dim ond os yw person yn bodloni unrhyw amodau sy'n gymwys i'r penodiad a bennir mewn rheoliadau penodi y caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod lleyg—

(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd,

(b)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi'n aelod lleyg ar sail oedran, penodiad blaenorol neu ddiswyddiad blaenorol, neu

(c)os gellid penodi'r person yn aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

Tâl cydnabyddiaeth etc

6(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Tribiwnlys.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Tribiwnlys.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

Telerau penodi

7(1)Mae aelod o'r Tribiwnlys yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr Atodlen hon.

Cyfnod y penodiad

8(1)Mae person a benodir yn aelod o'r Tribiwnlys yn aelod (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 5 mlynedd.

(2)Ond, os yw'n angenrheidiol neu'n hwylus yn nhyb Gweinidogion Cymru, caiff Gweinidogion Cymru benodi person yn aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys am gyfnod sy'n llai na 5 mlynedd.

(3)Mae'r paragraff hwn yn ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

Rheoliadau penodi

9(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Tribiwnlys (“rheoliadau penodi”).

(2)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch unrhyw un neu ragor o'r materion canlynol—

(a)yr egwyddorion i'w dilyn wrth wneud unrhyw benodiad i'r Tribiwnlys;

(b)gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae'n rhaid i aelodau'r Tribiwnlys feddu arnynt.

(3)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(4)Caiff rheoliadau penodi, ymysg pethau eraill, roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

RHAN 3TERFYNU PENODIAD

Ymddiswyddo

10(1)Caiff y Llywydd ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.

(2)Caiff aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu aelod lleyg o'r Tribiwnlys ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

Anghymhwyso rhag bod yn aelod

11Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd.

Diswyddo

12(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Tribiwnlys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)nad yw'r person hwnnw'n ffit i barhau fel aelod o'r Tribiwnlys, neu

(b)nad yw'r person hwnnw'n gallu neu'n fodlon arfer ei ddyletswyddau fel aelod o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn diswyddo unrhyw aelod arall o'r Tribiwnlys.

RHAN 4ANGHYMHWYSO RHAG BOD YN AELOD NEU RHAG CAEL EI BENODI

Anghymhwyso rhag bod yn aelod: cyflogaeth

13(1)Mae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth—

(a)os yw'r person yn Aelod Seneddol;

(b)os yw'r person yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)os yw'r person yn aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;

(d)os yw'r person yn aelod o staff Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(e)os ef yw'r Comisiynydd;

(f)os ef yw'r Dirprwy Gomisiynydd;

(g)os yw'r person yn unrhyw aelod arall o staff y Comisiynydd; neu

(h)os yw'r person yn briod â pherson, neu'n bartner sifil i berson, sy'n dod o fewn paragraff (e), (f) neu (g).

Anghymhwyso rhag bod yn aelod: anaddasrwydd

14(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd os yw'r person—

(a)wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr ac yn parhau i fod yn fethdalwr;

(b)wedi cael gorchymyn rhyddhad o ddyled (o fewn ystyr Rhan VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986), a bod y cyfnod moratoriwm o dan y gorchymyn hwnnw'n parhau;

(c)wedi gwneud trefniant gyda'i gredydwyr a bod y trefniant yn parhau i fod mewn grym;

(d)wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi cael dedfryd o garchar (boed yn ataliedig neu beidio) am gyfnod heb fod yn llai na thri mis heb gael yr opsiwn o ddirwy;

(e)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru; neu

(f)wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(a) mae person yn parhau i fod yn fethdalwr—

(a)hyd oni chaiff y person ei ryddhau o fethdaliad, neu

(b)hyd oni chaiff y gorchymyn methdalu a wnaed yn erbyn y person hwnnw ei ddiddymu.

(3)At ddibenion is-baragraff (1)(c) mae trefniant person gyda'i gredydwyr yn parhau i fod mewn grym—

(a)hyd onid yw'r person yn talu ei ddyledion yn llawn, neu

(b)os yw'n hwyrach, hyd ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y mae telerau'r trefniant yn cael eu cyflawni.

(4)Os bydd y cwestiwn a yw person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail anaddasrwydd yn codi mewn perthynas â phenodi person yn aelod o'r Tribiwnlys, mae unrhyw gollfarn a gafodd y person hwnnw fwy na phum mlynedd cyn dyddiad y penodiad i'w diystyru.

Anghymhwyso rhag penodi: oedran

15Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys os yw'r person eisoes wedi cyrraedd 70 oed ar ddyddiad y penodiad.

Anghymhwyso rhag penodi: penodiad blaenorol

16(1)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n Llywydd am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

(2)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o'r Tribiwnlys wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod lleyg ar sail penodiad blaenorol os yw'r person eisoes wedi ei benodi'n aelod lleyg am gyfnod o ddeng mlynedd neu fwy (boed mewn penodiadau olynol neu heb fod yn olynol).

Anghymhwyso rhag penodi: diswyddiad blaenorol o swydd

17Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n Llywydd neu'n aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu'n aelod lleyg o'r Tribiwnlys ar sail diswyddiad blaenorol os yw Gweinidogion Cymru wedi diswyddo'r person o'r Tribiwnlys yn flaenorol o dan baragraff 12.

RHAN 5CYFFREDINOL

Dehongli

18Yn yr Atodlen hon ystyr “rheoliadau penodi” yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9.