xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 07/07/2015
12(1)Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd, fynd i mewn i fangre a'i harchwilio os bydd mynd i mewn ac archwilio'n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad yn nhyb y Comisiynydd neu'r person awdurdodedig.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4).
(3)Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn—
(a)i annedd, neu
(b)i fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo.
(4)Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn i fangre ar adeg benodol os yw'n afresymol mynd i mewn ar yr adeg honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 12 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)