xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCOMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 5LL+CMATERION ARIANNOL

Taliadau gan Weinidogion CymruLL+C

14Caiff Gweinidogion Cymru dalu i'r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â gwariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Blwyddyn ariannolLL+C

15(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Comisiynydd yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 2 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Swyddog cyfrifydduLL+C

16(1)Y Comisiynydd yw'r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid swyddfa'r Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

(a)cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd, ac

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiynydd.

(4)Mae'r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfrifoldebau sy'n ddyledus i'r canlynol—

(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)Tŵ'r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŵ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin (“y Pwyllgor Seneddol”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Seneddol,

(b)cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Seneddol ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo'r dystiolaeth a gymerwyd i'r Pwyllgor Seneddol.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwiliadau Cenedlaethol 1983 (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn yn yr un modd ag y mae'n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

(7)Yn y paragraff hwn ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

AmcangyfrifonLL+C

17(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio'r un gyntaf, rhaid i'r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant swyddfa'r Comisiynydd.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â'r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r addasiadau (os oes rhai) sy'n briodol yn eu tyb hwy.

(4)Yn is-baragraff (1) ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

CyfrifonLL+C

18(1)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cadw cofnodion cyfrifyddol priodol, a

(b)llunio cyfrifon o ran pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddiadau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r cyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfarwyddiadau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cyfrifon a'r modd y mae'r cyfrifon i'w cyflwyno;

(b)y dulliau a'r egwyddorion y mae'r cyfrifon i'w llunio yn unol â hwy;

(c)gwybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda'r cyfrifon.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

ArchwilioLL+C

19(1)Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â'i adroddiad arnynt.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymysg pethau eraill, wrth archwilio'r cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ei fodloni ei hun fod y gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi cael ei dynnu'n gyfreithiol ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Archwilio'r defnydd o adnoddauLL+C

20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth i swyddogaethau'r Comisiynydd gael eu cyflawni.

(2)Nid yw is-baragraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi'r Comisiynydd.

(3)Wrth benderfynu sut i arfer y swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran yr archwiliadau y dylai eu cyflawni.

(4)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad o ganlyniadau unrhyw archwiliad a gyflawnwyd o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)