Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

RHAN 4LL+CANGHYMHWYSO RHAG BOD YN GOMISIYNYDD

13LL+CMae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth os yw'r person—

(a)yn Aelod Seneddol;

(b)yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn aelod o gyngor sir, o gyngor bwrdeistref sirol neu o gyngor cymuned yng Nghymru;

(d)yn aelod o'r Tribiwnlys;

(e)yn aelod o'r Panel Cynghori;

(f)yn berson sy'n cael ei gyflogi gan berson sy'n dod o fewn Atodlen 5 neu Atodlen 7, neu sy'n cynghori'r person hwnnw;

(g)yn aelod o staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)