xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1COMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 2PENODI

Penodi

3(1)Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

(a)rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

(b)rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

(c)caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

(2)Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

(b)os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

(3)Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

(c)aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

4(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i'r Comisiynydd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i'r Comisiynydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n Gomisiynydd neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n Gomisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

Telerau penodi

5(1)Mae'r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

(3)Rhaid i delerau penodi'r Comisiynydd ddarparu ei fod yn dal y swydd yn llawnamser.

Cyfnod y penodiad

6(1)Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 7 mlynedd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

Rheoliadau penodi

7(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).

(2)Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—

(a)cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a

(b)gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

(4)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.

(5)Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—

(a)gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a

(b)gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.

(6)Caiff rheoliadau penodi—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(7)Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

Dirprwyo swyddogaethau penodi etc

8(1)Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—

(a)darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—

(i)swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a

(ii)unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a

(b)gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.