Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Archwilio'r defnydd o adnoddauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth i swyddogaethau'r Comisiynydd gael eu cyflawni.

(2)Nid yw is-baragraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi'r Comisiynydd.

(3)Wrth benderfynu sut i arfer y swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran yr archwiliadau y dylai eu cyflawni.

(4)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad o ganlyniadau unrhyw archwiliad a gyflawnwyd o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)