xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 2)

ATODLEN 1LL+CCOMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 1LL+CSTATWS ETC

StatwsLL+C

1(1)Mae'r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw'r Comisiynydd i'w ystyried yn was neu'n asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(3)Nid yw eiddo'r Comisiynydd i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal gan neu ar ran y Goron.

(4)Wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â'r Comisiynydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo'n rhesymol bosibl wrth iddo benderfynu—

(a)ar ei weithgareddau,

(b)ar ei amserlenni, ac

(c)ar ei flaenoriaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Dilysrwydd gweithredoeddLL+C

2(1)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw, neu

(b)unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

(2)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy'n arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw,

(b)y Comisiynydd, neu

(c)unrhyw aelod o'r Panel Cynghori.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

RHAN 2LL+CPENODI

PenodiLL+C

3(1)Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

(a)rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

(b)rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

(c)caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

(2)Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

(b)os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

(3)Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

(c)aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)

Tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynauLL+C

4(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i'r Comisiynydd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i'r Comisiynydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau a fu'n Gomisiynydd neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n Gomisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Telerau penodiLL+C

5(1)Mae'r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

(3)Rhaid i delerau penodi'r Comisiynydd ddarparu ei fod yn dal y swydd yn llawnamser.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Cyfnod y penodiadLL+C

6(1)Mae person a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd (yn rhinwedd y penodiad hwnnw) am 7 mlynedd.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Ran 3 o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Rheoliadau penodiLL+C

7(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd (“rheoliadau penodi”).

(2)Rhaid i'r rheoliadau penodi wneud darpariaeth ar gyfer sefydlu panel o bersonau (“panel dethol”) sydd i wneud y canlynol—

(a)cyf-weld ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, a

(b)gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynglŷn â'r penodiad.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau penodi'n cynnwys darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-baragraffau (4) i (7), ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

(4)Caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd.

(5)Caiff rheoliadau penodi ddarparu ynghylch—

(a)gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi, a

(b)gwybodaeth a phrofiad o'r materion y mae gan y Comisiynydd swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy,

sef gwybodaeth, hyfedredd a phrofiad o'r math y mae'n rhaid i'r Comisiynydd feddu arno.

(6)Caiff rheoliadau penodi—

(a)cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy'n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n ymwneud ag unrhyw god o'r fath.

(7)Caiff rheoliadau penodi roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu i Brif Weinidog Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)

Dirprwyo swyddogaethau penodi etcLL+C

8(1)Caiff Prif Weinidog Cymru drwy orchymyn—

(a)darparu bod Gweinidogion Cymru'n arfer—

(i)swyddogaeth Prif Weinidog Cymru o benodi'r Comisiynydd, a

(ii)unrhyw un neu rai neu'r oll o swyddogaethau eraill Prif Weinidog Cymru sy'n ymwneud â'r Comisiynydd, a

(b)gwneud darpariaeth arall gysylltiedig sy'n briodol yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan y paragraff hwn yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio neu'n addasu'r Mesur hwn fel arall, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)

RHAN 3LL+CTERFYNU PENODIAD

YmddiswyddoLL+C

9Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Brif Weinidog Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

AnghymhwysoLL+C

10Mae person yn peidio â bod yn Gomisiynydd os yw'n cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

DiswyddoLL+C

11Caiff Prif Weinidog Cymru ddiswyddo'r Comisiynydd os yw Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni o ran y Comisiynydd—

(a)nad yw'n ffit i barhau fel Comisiynydd, neu

(b)nad yw'n gallu neu nad yw'n fodlon arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Taliadau pan fydd yn peidio â dal y swyddLL+C

12Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson sy'n peidio â dal swydd Comisiynydd os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael y taliad yn iawndal.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

RHAN 4LL+CANGHYMHWYSO RHAG BOD YN GOMISIYNYDD

13LL+CMae person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth os yw'r person—

(a)yn Aelod Seneddol;

(b)yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)yn aelod o gyngor sir, o gyngor bwrdeistref sirol neu o gyngor cymuned yng Nghymru;

(d)yn aelod o'r Tribiwnlys;

(e)yn aelod o'r Panel Cynghori;

(f)yn berson sy'n cael ei gyflogi gan berson sy'n dod o fewn Atodlen 5 neu Atodlen 7, neu sy'n cynghori'r person hwnnw;

(g)yn aelod o staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)

RHAN 5LL+CMATERION ARIANNOL

Taliadau gan Weinidogion CymruLL+C

14Caiff Gweinidogion Cymru dalu i'r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â gwariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Blwyddyn ariannolLL+C

15(1)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod cychwyn ac sy'n dod i ben—

(a)y 31 Mawrth canlynol (os 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn), neu

(b)yr ail 31 Mawrth canlynol (os nad 1 Ebrill yw'r diwrnod cychwyn).

(2)Yn ddarostyngedig i hynny, blwyddyn ariannol y Comisiynydd yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(3)Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod cychwyn” yw'r diwrnod y daw adran 2 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Swyddog cyfrifydduLL+C

16(1)Y Comisiynydd yw'r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid swyddfa'r Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i'w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

(a)cyfrifoldebau o ran llofnodi cyfrifon,

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd, ac

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau'r Comisiynydd.

(4)Mae'r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfrifoldebau sy'n ddyledus i'r canlynol—

(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)Tŵ'r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŵ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin (“y Pwyllgor Seneddol”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran y Pwyllgor Seneddol,

(b)cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Seneddol ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo'r dystiolaeth a gymerwyd i'r Pwyllgor Seneddol.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwiliadau Cenedlaethol 1983 (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŵ'r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn yn yr un modd ag y mae'n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

(7)Yn y paragraff hwn ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I32Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

AmcangyfrifonLL+C

17(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio'r un gyntaf, rhaid i'r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant swyddfa'r Comisiynydd.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â'r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r addasiadau (os oes rhai) sy'n briodol yn eu tyb hwy.

(4)Yn is-baragraff (1) ystyr “swyddfa'r Comisiynydd” yw'r Comisiynydd a staff y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I34Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

CyfrifonLL+C

18(1)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cadw cofnodion cyfrifyddol priodol, a

(b)llunio cyfrifon o ran pob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddiadau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r cyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gyfarwyddiadau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cyfrifon a'r modd y mae'r cyfrifon i'w cyflwyno;

(b)y dulliau a'r egwyddorion y mae'r cyfrifon i'w llunio yn unol â hwy;

(c)gwybodaeth ychwanegol (os o gwbl) sydd i fynd gyda'r cyfrifon.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I36Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

ArchwilioLL+C

19(1)Rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno'r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â'i adroddiad arnynt.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ymysg pethau eraill, wrth archwilio'r cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ei fodloni ei hun fod y gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef wedi cael ei dynnu'n gyfreithiol ac yn unol â'r awdurdod sy'n ei lywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I38Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

Archwilio'r defnydd o adnoddauLL+C

20(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth i swyddogaethau'r Comisiynydd gael eu cyflawni.

(2)Nid yw is-baragraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhoi hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu teilyngdod amcanion polisi'r Comisiynydd.

(3)Wrth benderfynu sut i arfer y swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ystyried barn Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran yr archwiliadau y dylai eu cyflawni.

(4)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad o ganlyniadau unrhyw archwiliad a gyflawnwyd o dan y paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I40Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(b)

RHAN 6LL+CCYFFREDINOL

DehongliLL+C

21Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I42Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)