xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Ymarferiad a threfniadaeth etc

123Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg

(1)Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.

(2)Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).

(3)Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—

(a)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;

(b)darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;

(c)darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—

(i)mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu

(ii)mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.

(4)Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—

(a)arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;

(b)cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;

(c)dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;

(d)dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;

(e)achosion gwacsaw neu flinderus;

(f)caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;

(g)asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);

(h)cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;

(i)pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;

(j)y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.

(5)Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a

(b)i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.

(6)Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.

(8)O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—

(a)deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a

(b)maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(9)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

124Cyfarwyddiadau ymarfer

(1)Caiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ynghylch ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys.

(2)Ond ni chaiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ymarfer onid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gyfarwyddiadau ymarfer i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau hynny'n ymwneud â—

(a)cymhwyso neu ddehongli'r gyfraith, neu

(b)gwneud penderfyniadau gan aelodau o'r Tribiwnlys.

(4)Mae'r pŵer o dan yr adran hon i roi cyfarwyddiadau ymarfer yn cynnwys—

(a)pŵer i amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer a roddir wrth arfer y pŵer, a

(b)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

125Canllawiau, cyngor a gwybodaeth

(1)Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

(4)Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

(a)i bersonau penodol, neu

(b)yn fwy cyffredinol.

126Pwerau atodol

(1)Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

(2)Dyma'r materion—

(a)presenoldeb tystion a'u holi,

(b)cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

(c)pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

(3)Nid yw is-adran (1)—

(a)yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

(b)wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

(4)Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

(5)Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.