xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4SAFONAU

PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Ymchwiliadau safonau

61Ymchwiliadau safonau

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad a gynhelir mewn perthynas â pherson (P) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o'r cwestiynau canlynol—

(a)a ddylai P fod yn agored — neu a ddylai P barhau i fod yn agored — i orfod cydymffurfio â safonau;

(b)os yw P yn dod o fewn Atodlen 6, pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn gymwysadwy i P;

(c)os yw P yn dod o fewn Atodlen 8, pa wasanaethau (os o gwbl) a ddylai gael — neu a ddylai barhau i gael — eu pennu yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8;

(d)pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn benodol gymwys i P (p'un a yw'r safonau eisoes wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) ai peidio);

(e)unrhyw gwestiwn arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn berthnasol o ran y graddau y caniateir i P fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safonau.

(2)Caniateir cynnal ymchwiliad safonau penodol mewn perthynas—

(a)â pherson penodol, neu

(b)â grŵp o bersonau.

62Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonau

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.

(2)Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr ymchwiliad.

(3)Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—

(a)sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a

(b)sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y Comisiynydd.

63Y gofynion wrth gynnal ymchwiliadau safonau

(1)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r angen am sicrhau nad yw gofynion am i bersonau gydymffurfio â safonau yn rhinwedd adran 25(1) yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu, neu'n cael ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, rhaid i'r ymchwiliad—

(a)ystyried, o ran pob gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 y mae P yn ei wneud, a yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P ai peidio, a

(b)o ran pob gweithgaredd o'r fath, os yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, ddod i'r casgliad y dylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(3)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â phob person perthnasol,

(b)â'r Panel Cynghori, ac

(c)â'r cyhoedd, ac eithrio—

(i)os yw'n ystyried, neu

(ii)i'r graddau y mae'n ystyried

ei bod yn amhriodol gwneud hynny.

(4)Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.