xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4SAFONAU

PENNOD 5SAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS

39Safonau sy'n benodol gymwys

(1)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn benodol gymwys i berson (P) os yw Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i P drwy wneud darpariaeth sy'n cyfeirio—

(a)at P yn benodol, neu

(b)at grŵp o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

40Dyletswydd i wneud safonau'n benodol gymwys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn gwneud darpariaeth i'r safon fod yn benodol gymwys i un person neu ragor.

41Safonau gwahanol yn ymwneud ag ymddygiad penodol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) yn pennu nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad penodol.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—

(a)i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(b)i ddwy safon neu ragor fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(c)i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.

42Dyletswydd i wneud rhai safonau cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod unrhyw safon cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys i berson (P).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â phob un o'r gweithgareddau a bennir yn Atodlen 9 (i'r graddau y mae safonau o'r fath wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)) yn benodol gymwys i P os yw P, ac i'r graddau y mae P, yn gwneud y gweithgareddau hynny.

(3)Ond nid oes rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau yn darparu i safon cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 os yw, neu i'r graddau y mae—

(a)adroddiad safonau o dan adran 64 yn nodi y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw, neu

(b)Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal rheoliadau o dan adran 39 rhag darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau eraill yn benodol gymwys i P.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 9 drwy ychwanegu, hepgor neu ddiwygio cyfeiriad at weithgaredd.

43Cyfyngiad ar y pŵer i wneud safonau'n benodol gymwys

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu bod safon—

(a)yn benodol gymwys i berson, oni bai bod y safon yn gymwysadwy i'r person hwnnw, neu

(b)yn benodol gymwys i grŵp o bersonau oni bai bod y safon yn gymwysadwy i bob person yn y grŵp hwnnw.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno.

(3)Mewn achos—

(a)pan fo safon yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron, a

(b)pan fo'r safon yn cael ei haddasu gan ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 26,

nid yw'r safon fel y mae wedi ei haddasu yn benodol gymwys i Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno yn y rheoliadau hynny.

(4)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “Gweinidogion y Goron” yr un ystyr ag sydd iddo yn Atodlen 6.