xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

Valid from 07/07/2015

PENNOD 1LL+CDYLETSWYDD I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU

25Dyletswydd i gydymffurfio â safonLL+C

(1)Rhaid i berson (P) gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â Phennod 2 os bodlonir, a thra bodlonir, yr amodau canlynol.

(2)Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3).

(3)Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4).

(4)Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5).

(5)Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P (gweler Pennod 6).

(6)Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon (gweler Pennod 6).

(7)Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).

(8)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r hysbysiad cydymffurfio a roddir i P.

(9)Am ddarpariaeth—

(a)ynglŷn â'r hawl i herio mewn cysylltiad â'r ddyletswydd i gydymffurfio â safonau, gweler Pennod 7;

(b)ynglŷn ag ymchwiliadau ac adroddiadau safonau, gweler Pennod 8;

(c)ynglŷn â materion cyffredinol, gweler Pennod 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

PENNOD 2LL+CSAFONAU A PHENNU SAFONAU

Pennu safonauLL+C

26Gweinidogion Cymru i bennu safonauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,

(b)pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,

(c)pennu un neu ragor o safonau gweithredu,

(d)pennu un neu ragor o safonau hybu, ac

(e)pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y safonau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 26 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I3A. 26 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

27Pennu safonau: darpariaeth atodolLL+C

(1)Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—

(a)cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu

(b)cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.

(3)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—

(a)un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu

(b)nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

(4)Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;

(b)gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;

(c)casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;

(d)gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;

(e)trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;

(f)gofynion adrodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 27 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I5A. 27 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau cyflenwi gwasanaethauLL+C

28Safonau cyflenwi gwasanaethauLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw—

(a)cyflenwi gwasanaethau gan berson i berson arall, neu

(b)delio gan berson ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau—

(i)i'r person arall hwnnw, neu

(ii)i drydydd person.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 28 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I7A. 28 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau llunio polisiLL+C

29Safonau llunio polisiLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon llunio polisi” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi, a

(b)y bwriedir iddo sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o'r canlyniadau a ganlyn.

(2)Y cyntaf o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl, (a ph'un ai yw'r effeithiau'n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(3)Yr ail o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(4)Y trydydd o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol—

(a)ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu

(b)ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.

(6)Ystyr “penderfyniad polisi” yw penderfyniad gan berson—

(a)ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau, neu

(b)ynglŷn â chynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 29 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I9A. 29 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau gweithreduLL+C

30Safonau gweithreduLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—

(a)sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a

(b)y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—

(i)gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,

(ii)gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu

(iii)gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “gweithgareddau perthnasol” yw—

(i)swyddogaethau, neu

(ii)busnes neu ymgymeriad arall;

(b)mae cyfeiriad at gyflawni gweithgareddau perthnasol yn gyfeiriad at—

(i)arfer swyddogaethau, neu

(ii)cynnal busnes neu ymgymeriad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 30 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I11A. 30 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau hybuLL+C

31Safonau hybuLL+C

Yn y Mesur hwn ystyr “safon hybu” yw safon (yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 31 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I13A. 31 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

Safonau cadw cofnodionLL+C

32Safonau cadw cofnodionLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy'n ymwneud â chadw—

(a)cofnodion sy'n ymwneud â safonau penodedig eraill, a

(b)cofnodion sy'n ymwneud—

(i)â chwynion am gydymffurfedd person â safonau penodedig eraill, neu

(ii)â chwynion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

(2)Yn yr adran hon ystyr “safon benodedig” yw safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 32 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I15A. 32 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

PENNOD 3LL+CPERSONAU SY'N AGORED I ORFOD CYDYMFFURFIO Å SAFONAU

33Personau sy'n agored i orfod cydymffurfio â safonauLL+C

(1)Mae person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw P—

(a)yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8.

(2)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 33 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I17A. 33 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

34Personau sy'n dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8LL+C

(1)Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.

(2)Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(3)Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.

(4)Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—

(a)yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu

(b)yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.

(5)Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n pennu—

(a)P, neu

(b)categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(7)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 34 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I19A. 34 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

35Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu

(b)at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (1).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.

(7)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 35 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I21A. 35 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

PENNOD 4LL+CSAFONAU CYMWYSADWY

36Personau sy'n dod o fewn Atodlen 6LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 6.

(2)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P os yw'n perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 6.

(3)At y diben hwnnw, mae pob un o'r canlynol yn ddosbarth o safonau—

(a)safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)safonau llunio polisi;

(c)safonau gweithredu;

(d)safonau hybu;

(e)safonau cadw cofnodion.

(4)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 36 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I23A. 36 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

37Personau sy'n dod o fewn Atodlen 8LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P) sy'n dod o fewn Atodlen 8.

(2)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn gymwysadwy i P os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno—

(a)yn safon cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir (“safon neilltuedig cyflenwi gwasanaethau”), neu

(b)yn safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion—

(i)am safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau,

(ii)am gwynion yn ymwneud â chydymffurfedd P â safonau neilltuedig cyflenwi gwasanaethau, neu

(iii)am gwynion mewn perthynas â'r Gymraeg sy'n ymwneud â darparu gan P wasanaeth a bennir.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “gwasanaeth a bennir” yw gwasanaeth a bennir yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8.

(4)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 37 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I25A. 37 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

38Diwygio safonau cymwysadwyLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o'r canlynol—

(a)safonau cyflenwi gwasanaethau;

(b)safonau llunio polisi;

(c)safonau gweithredu;

(d)safonau cadw cofnodion.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (2) o unrhyw un neu ragor o'r cofnodion canlynol yn y tabl yn cynnwys cyfeiriad at safonau hybu—

(a)cofnod Gweinidogion Cymru;

(b)cofnod cyngor bwrdeistref sirol;

(c)cofnod cyngor sir;

(d)cofnod awdurdod Parc Cenedlaethol;

(e)cofnod unrhyw berson arall, ond dim ond os yw'r person wedi cydsynio y dylai safonau hybu fod yn gymwysadwy iddo.

(4)At ddibenion is-adran (3)—

(a)ystyr “cydsyniad” yw cydsyniad ysgrifenedig a roddir i Weinidogion Cymru;

(b)caniateir i berson dynnu cydsyniad yn ôl, ond dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn cytuno i hynny;

(c)os yw person yn tynnu cydsyniad yn ôl ar ôl i gofnod y person hwnnw gael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at safonau hybu, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu'r cyfeiriad at safonau hybu yng nghofnod y person hwnnw.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (2) o gofnod sy'n ymwneud â pherson neu gategori o berson yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu gwasanaeth (y “gwasanaeth a bennir”), ond dim ond—

(a)os yw'r amod yn is-adran (7) wedi ei fodloni, a

(b)os yw'r amod yn is-adran (8) neu (9) wedi ei fodloni.

(7)Rhaid i'r gwasanaeth a bennir ddod o fewn categori o wasanaeth a bennir yng ngholofn (3) o'r tabl yn Atodlen 7 (“gwasanaeth sydd ar gael”)

(8)Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â pherson yn Atodlen 8, rhaid i'r person hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.

(9)Os yw'r gwasanaeth a bennir i ymwneud â chategori o bersonau yn Atodlen 8, rhaid i'r holl bersonau o fewn y categori hwnnw ddod o fewn y categori o bersonau yng ngholofn (2) yn y tabl yn Atodlen 7 y mae'r gwasanaeth sydd ar gael yn perthyn iddo.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng ngholofn (2).

(11)Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb hwy mewn cysylltiad â phwerau o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (10), at ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 38 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I27A. 38 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

PENNOD 5LL+CSAFONAU SY'N BENODOL GYMWYS

39Safonau sy'n benodol gymwysLL+C

(1)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn benodol gymwys i berson (P) os yw Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i P drwy wneud darpariaeth sy'n cyfeirio—

(a)at P yn benodol, neu

(b)at grŵp o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.

(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 39 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I29A. 39 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

40Dyletswydd i wneud safonau'n benodol gymwysLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn gwneud darpariaeth i'r safon fod yn benodol gymwys i un person neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 40 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I31A. 40 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

41Safonau gwahanol yn ymwneud ag ymddygiad penodolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) yn pennu nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad penodol.

(2)Caiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r canlynol—

(a)i un safon fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(b)i ddwy safon neu ragor fod yn benodol gymwys i un person, i ddau berson neu i ragor, neu i grŵp o bersonau;

(c)i safonau gwahanol fod yn benodol gymwys i bersonau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 41 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I33A. 41 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

42Dyletswydd i wneud rhai safonau cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwysLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod unrhyw safon cyflenwi gwasanaethau'n benodol gymwys i berson (P).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau sy'n ymwneud â phob un o'r gweithgareddau a bennir yn Atodlen 9 (i'r graddau y mae safonau o'r fath wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)) yn benodol gymwys i P os yw P, ac i'r graddau y mae P, yn gwneud y gweithgareddau hynny.

(3)Ond nid oes rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod rheoliadau yn darparu i safon cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 os yw, neu i'r graddau y mae—

(a)adroddiad safonau o dan adran 64 yn nodi y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw, neu

(b)Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n afresymol neu'n anghymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal rheoliadau o dan adran 39 rhag darparu bod safonau cyflenwi gwasanaethau eraill yn benodol gymwys i P.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 9 drwy ychwanegu, hepgor neu ddiwygio cyfeiriad at weithgaredd.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 42 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I35A. 42 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

43Cyfyngiad ar y pŵer i wneud safonau'n benodol gymwysLL+C

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu bod safon—

(a)yn benodol gymwys i berson, oni bai bod y safon yn gymwysadwy i'r person hwnnw, neu

(b)yn benodol gymwys i grŵp o bersonau oni bai bod y safon yn gymwysadwy i bob person yn y grŵp hwnnw.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno.

(3)Mewn achos—

(a)pan fo safon yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron, a

(b)pan fo'r safon yn cael ei haddasu gan ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 26,

nid yw'r safon fel y mae wedi ei haddasu yn benodol gymwys i Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno yn y rheoliadau hynny.

(4)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “Gweinidogion y Goron” yr un ystyr ag sydd iddo yn Atodlen 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 43 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I37A. 43 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

PENNOD 6LL+CHYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

44Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P) gan y Comisiynydd—

(a)sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.

(2)Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol—

(a)mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;

(b)mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.

(3)Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—

(a)ag un o'r safonau'n unig, neu

(b)â gwahanol safonau—

(i)ar adegau gwahanol;

(ii)mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol);

(iii)mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol).

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 44 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I39A. 44 mewn grym ar 17.4.2012 gan O.S. 2012/1096, ergl. 2(c)

Valid from 07/07/2015

Rhoi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

45Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw bersonLL+C

(1)Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.

(2)Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—

(a)yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a

(b)yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—

(a)rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a

(b)rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.

(4)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 45 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

46Diwrnodau gosodLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys o ran pob safon a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson.

(2)Rhaid i'r hysbysiad ddatgan y diwrnod gosod neu'r diwrnodau gosod.

(3)Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(4)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—

(a)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,

(b)y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol.

(5)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 46 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

47YmgynghoriLL+C

(1)Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).

(3)Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 47 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

48Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyrLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod cyhoeddus (y “contract perthnasol”).

(2)Dim ond—

(a)os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),

(b)os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus, ac

(c)os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus,

y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at, safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.

(4)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Atodlen 8.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus” (“public authority’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, y mae'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol;

  • ystyr “diwrnod gosod y person neilltuedig” (“qualifying person’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, a nodir yn yr hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig yn ddiwrnod y mae i fod yn ofynnol i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 48 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Valid from 07/07/2015

Amrywio hysbysiadau cydymffurfioLL+C

49Amrywio hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.

(3)Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 49 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Valid from 07/07/2015

Dirymu hysbysiadau cydymffurfioLL+C

50Dirymu hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—

(a)yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”), a

(b)ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad newydd”).

(3)Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.

(4)Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 50 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Valid from 07/07/2015

Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grymLL+C

51Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grymLL+C

(1)Mae hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson (P) mewn grym o'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i P gan y Comisiynydd.

(2)Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff — a hyd oni chaiff — ei ddirymu.

(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 51 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Valid from 07/07/2015

Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

52Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd mewn grym.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—

(a)bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(3)Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei ddyfarnu'n derfynol—

(a)bod y cais wedi ei wneud, a

(b)nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60 (os dyna'r sefyllfa).

(4)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—

(a)os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;

(b)os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 52 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Valid from 07/07/2015

Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i benLL+C

53Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i benLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd person (P) yn peidio â bod o dan y ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safon oherwydd—

(a)bod un neu ragor o amodau 1 i 3 yn adran 25 yn peidio â chael ei fodloni neu eu bodloni, neu

(b)bod y safon yn peidio â chael ei phennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).

(2)Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r adran hon fod yn gymwys, rhaid i'r Comisiynydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Bennod hon, sicrhau bod y newid a ddisgrifir yn is-adran (1) yn cael ei adlewyrchu yn yr hysbysiadau cydymffurfio (os bydd rhai) sy'n parhau mewn grym mewn perthynas â P.

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 53 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

Valid from 07/07/2015

PENNOD 7LL+CYR HAWL I HERIO

54Herio dyletswyddau dyfodolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol

oddi ar ddiwrnod gosod yn y dyfodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Os yw'r dyfarniad hwnnw'n cael ei wneud cyn y diwrnod gosod, rhaid i'r Comisiynydd wrth wneud y dyfarniad ystyried yr amgylchiadau fel y disgwylir iddynt fod ar y diwrnod gosod.

(4)Rhaid i gais o dan yr adran hon gael ei wneud cyn y diwrnod gosod.

(5)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “diwrnod gosod” yr ystyr sydd iddo yn adran 46.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 54 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

55Herio dyletswyddau presennolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Ond caiff y Comisiynydd wrthod derbyn cais o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau P—

(a)oddi ar y diwrnod y'i gwnaed yn ofynnol am y tro cyntaf i P gydymffurfio â'r safon, neu i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, neu

(b)os yw'r Comisiynydd wedi dyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar gais blaenorol o dan yr adran hon, ers i'r Comisiynydd ddyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar y cais hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r cwestiwn y mae cais o dan yr adran hon yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 55 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

56Ceisiadau i'r ComisiynyddLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gais o dan adran 54 neu 55 yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r cais gael ei wneud ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Comisiynydd (os yw'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud ar ffurf benodol).

(4)Rhaid i'r cais nodi'r rhesymau pam y mae P o'r farn bod y gofyniad i gydymffurfio â'r safon, neu i gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 56 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

57Dyfarnu ar gaisLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)i unrhyw gais o dan adran 54, a

(b)i unrhyw gais o dan adran 55 nad yw'r Comisiynydd yn gwrthod ei dderbyn.

(2)Mater i P yw dangos bod y gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu ar y cais cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cais gael ei wneud.

(4)Wrth ddyfarnu ar y cais—

(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â P, a

(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yng nghanlyniad y cais ym marn y Comisiynydd.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P o'r dyfarniad ar y cais.

(6)Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur, rhaid iddo wneud un o'r canlynol—

(a)dirymu'r hysbysiad cydymffurfio;

(b)dirymu'r hysbysiad cydymffurfio a rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd;

(c)amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol.

(7)Os bydd y Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio newydd neu'n amrywio'r hysbysiad cydymffurfio presennol—

(a)nid yw adran 45(3) yn gymwys, a

(b)nid yw adrannau 46(3) a 47 yn gymwys i'r graddau y mae'r Comisiynydd a P yn cytuno ar yr hysbysiad newydd, neu ar yr amrywiad i'r hysbysiad cydymffurfio presennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 57 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

58Yr hawl i apelioLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn hysbysu P o dan adran 57 o ddyfarniad nad yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Caiff P apelio i'r Tribiwnlys yn gofyn i'r Tribiwnlys ddyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbyswyd P gan y Comisiynydd o dan adran 57.

(4)Ond caiff y Tribiwnlys, ar gais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(5)Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i ddyfarniad ar apêl a wneir o dan yr adran hon.

(6)Os yw'r Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur, bydd is-adrannau (6) a (7) o adran 57 yn gymwys fel pe bai'r Comisiynydd wedi gwneud y dyfarniad hwnnw.

(7)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 58 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

59Apelau o'r TribiwnlysLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 58.

(2)Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

(3)Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

(a)caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

(b)os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

(i)anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

(ii)ail-wneud y penderfyniad.

(4)Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—

(a)cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du;

(b)cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

(5)Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

(b)gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

(6)Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i ddyfarniad ar yr apêl o dan adran 58.

(7)Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

(8)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 59 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

60Gohirio gosod dyletswyddLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw P yn gwneud cais o dan adran 54 am i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(2)Ni fydd y gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu am i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw'n gymwys oni fydd neu hyd oni fydd—

(a)y Comisiynydd wedi dyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio, a

(b)hawliau P i apelio wedi eu disbyddu.

(3)At y diben hwnnw, bydd hawliau P wedi eu disbyddu—

(a)os bydd y cyfnod a grybwyllir yn adran 58(3) ar gyfer gwneud apêl i'r Tribiwnlys wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei gwneud, neu

(b)os bydd apêl o dan adran 58 wedi ei gwneud a'i dyfarnu ac, o ran apêl bellach—

(i)na ellir gwneud un, neu

(ii)na ellir gwneud un heb ganiatâd y Tribiwnlys neu ganiatâd llys.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 60 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

PENNOD 8LL+CYMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU

Ymchwiliadau safonauLL+C

61Ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Yn y Mesur hwn ystyr “ymchwiliad safonau” yw ymchwiliad a gynhelir mewn perthynas â pherson (P) er mwyn dyfarnu ar un neu ragor o'r cwestiynau canlynol—

(a)a ddylai P fod yn agored — neu a ddylai P barhau i fod yn agored — i orfod cydymffurfio â safonau;

(b)os yw P yn dod o fewn Atodlen 6, pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn gymwysadwy i P;

(c)os yw P yn dod o fewn Atodlen 8, pa wasanaethau (os o gwbl) a ddylai gael — neu a ddylai barhau i gael — eu pennu yng ngholofn (2) o gofnod P yn y tabl yn Atodlen 8;

(d)pa safonau (os o gwbl) a ddylai fod — neu a ddylai barhau i fod — yn benodol gymwys i P (p'un a yw'r safonau eisoes wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) ai peidio);

(e)unrhyw gwestiwn arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn berthnasol o ran y graddau y caniateir i P fod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safonau.

(2)Caniateir cynnal ymchwiliad safonau penodol mewn perthynas—

(a)â pherson penodol, neu

(b)â grŵp o bersonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 61 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I57A. 61 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

62Y pŵer i gynnal ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau.

(2)Ond ni chaiff y Comisiynydd gynnal ymchwiliad safonau oni bai iddo roi hysbysiad rhagymchwilio i bob person perthnasol o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau ar yr ymchwiliad.

(3)Hysbysiad ysgrifenedig yw hysbysiad rhagymchwilio—

(a)sy'n datgan bod y Comisiynydd yn bwriadu cynnal ymchwiliad safonau, a

(b)sy'n pennu pwnc yr ymchwiliad safonau.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol rhoi hysbysiadau rhagymchwilio iddynt yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 62 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I59A. 62 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

63Y gofynion wrth gynnal ymchwiliadau safonauLL+C

(1)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r angen am sicrhau nad yw gofynion am i bersonau gydymffurfio â safonau yn rhinwedd adran 25(1) yn afresymol neu'n anghymesur.

(2)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu, neu'n cael ei gyfarwyddo, bod ymchwiliad safonau i ystyried a ddylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, rhaid i'r ymchwiliad—

(a)ystyried, o ran pob gweithgaredd a bennir yn Atodlen 9 y mae P yn ei wneud, a yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P ai peidio, a

(b)o ran pob gweithgaredd o'r fath, os yw'n rhesymol ac yn gymesur i safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P, ddod i'r casgliad y dylai safonau cyflenwi gwasanaethau fod yn benodol gymwys i P mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(3)Wrth gynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â phob person perthnasol,

(b)â'r Panel Cynghori, ac

(c)â'r cyhoedd, ac eithrio—

(i)os yw'n ystyried, neu

(ii)i'r graddau y mae'n ystyried

ei bod yn amhriodol gwneud hynny.

(4)Nid yw methiant person i gymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn atal y Comisiynydd rhag cynnal yr ymchwiliad safonau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 63 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I61A. 63 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

Adroddiadau safonauLL+C

64Adroddiad safonauLL+C

(1)Ar ôl cynnal ymchwiliad safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad safonau.

(2)Dogfen sy'n nodi'r canlynol yw adroddiad safonau—

(a)casgliadau'r ymchwiliad safonau, a

(b)rhesymau'r Comisiynydd dros ddod i'r casgliadau hynny.

(3)Os—

(a)casgliadau'r ymchwiliad (boed yn llwyr neu'n rhannol) yw y dylai safonau fod yn benodol gymwys i P, a

(b)nad yw unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r safonau hynny wedi ei phennu neu eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1),

rhaid i'r adroddiad nodi'r safonau sydd heb eu pennu.

(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad safonau—

(a)rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad—

(i)at bob person perthnasol,

(ii)at y Panel Cynghori,

(iii)at bob person a gymerodd ran yn ymgynghoriad y Comisiynydd yn unol ag adran 63, a

(iv)at Weinidogion Cymru, a

(b)caiff y Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson arall a chanddo ddiddordeb yn yr adroddiad ym marn y Comisiynydd.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol”—

(a)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â pherson penodol, yw'r person hwnnw;

(b)yn achos ymchwiliad safonau mewn perthynas â grŵp o bersonau, yw personau—

(i)yr ymddengys i'r Comisiynydd eu bod yn aelodau o'r grŵp, a

(ii)y mae'n briodol anfon copi o'r adroddiad atynt yn nhyb y Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 64 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I63A. 64 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

Pŵer cyfarwyddo Gweinidogion CymruLL+C

65Cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad safonauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan adran 16 i roi cyfarwyddyd i'r Comisiynydd er mwyn ei gyfarwyddo i gynnal ymchwiliad safonau mewn cysylltiad â pherson neu grŵp o bersonau.

(2)Rhaid i'r cyfarwyddyd bennu'r materion a ganlyn—

(a)y person, neu'r grŵp o bersonau y mae'r ymchwiliad i'w gynnal mewn cysylltiad ag ef;

(b)pwnc yr ymchwiliad;

(c)y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau;

(d)y cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe mis) y mae'n rhaid i'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau cyn iddo ddod i ben.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y cyfarwyddyd rhag pennu materion eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 65 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I65A. 65 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

Sylw sydd i'w roi i adroddiad safonauLL+C

66Gweinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i adroddiadLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau ac wedi llunio adroddiad safonau (boed o dan gyfarwyddyd neu ar gais Gweinidogion Cymru).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r adroddiad safonau wrth benderfynu ai i arfer ai peidio y pwerau sydd wedi eu rhoi iddynt gan y Rhan hon, a sut i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 66 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I67A. 66 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)

PENNOD 9LL+CCYFFREDINOL

Eithrio darlleduLL+C

67Eithrio darlleduLL+C

(1)Nid yw'r Mesur hwn—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol, na

(b)yn awdurdodi person i'w gwneud yn ofynnol,

i berson gydymffurfio â safon os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno, yn ymwneud â darlledu.

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darlledu” yw comisiynu, cynhyrchu, amserlennu, trawsyrru neu ddosbarthu rhaglenni (gan gynnwys hysbysebion, is-deitlau, cyhoeddiadau cyswllt a theletestun), gwasanaethau mynediad, rhyngweithgarwch, cynnwys ar-lein ac allbwn arall tebyg ei natur ar gyfer y teledu, y radio, y rhyngrwyd neu lwyfannau ar-lein neu ddi-wifr eraill;

(b)ond nid yw cyfeiriadau at ddarlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu (onid darlledu yw'r gweithgaredd ei hun).

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 67 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I69A. 67 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(iii)

Codau ymarferLL+C

68Codau ymarferLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd ddyroddi codau ymarfer at ddiben darparu canllawiau ymarferol am ofynion unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) (“codau ymarfer safonau”).

(2)Caiff y Comisiynydd adolygu codau ymarfer safonau neu eu tynnu'n ôl.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd beidio â dyroddi, adolygu neu dynnu'n ôl god ymarfer safonau heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4)Cyn ceisio'r cydsyniad hwnnw, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori—

(a)â'r personau y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau y mae'r cod ymarfer yn ymwneud â hi neu â hwy, a

(b)â'r Panel Cynghori.

(5)Pan fo cod ymarfer yn cael ei ddyroddi gan y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd hefyd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)sy'n nodi pa god sydd dan sylw ac sy'n datgan dyddiad y dyroddi, a

(b)sy'n pennu safon neu safonau y mae'r cod yn ymwneud â hi neu â hwy.

(6)Pan fo'r Comisiynydd yn tynnu cod ymarfer yn ôl, rhaid i'r Comisiynydd ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r cod dan sylw ac yn datgan y dyddiad y mae'r cod i beidio â bod yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 68 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I71A. 68 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(iii)

Valid from 07/07/2015

69Methiant i gydymffurfio â chodauLL+C

(1)Nid yw methiant person i gydymffurfio â darpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwywyd yn peri i'r person hwnnw fod yn agored i gamau gorfodi o unrhyw fath.

(2)Ond os cymerir unrhyw gamau o dan y Mesur hwn mewn perthynas â methiant person (P) i gydymffurfio â safon (“y methiant safonau honedig”)—

(a)caniateir dibynnu ar fethiant P i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau bod P yn atebol am y methiant safonau honedig, a

(b)caniateir dibynnu ar gydymffurfedd â darpariaeth berthnasol mewn cod ymarfer a gymeradwywyd fel rhywbeth sy'n tueddu i gadarnhau nad yw P yn atebol am y methiant safonau honedig.

(3)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god ymarfer a gymeradwywyd yn gyfeiriadau—

(a)at god ymarfer safonau fel y mae'n effeithiol am y tro, a

(b)pan fo cod ymarfer safonau wedi ei adolygu, at y cod hwnnw fel y'i hadolygwyd fel y mae'n effeithiol am y tro.

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 69 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

DehongliLL+C

70DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at fod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau i'w darllen yn unol ag adran 33;

(b)mae cyfeiriadau at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 i'w darllen yn unol ag adran 34;

(c)mae cyfeiriadau at fod safon yn gymwysadwy i berson i'w darllen yn unol ag adrannau 36 a 37;

(d)mae cyfeiriadau at fod safon yn benodol gymwys i berson i'w darllen yn unol ag adran 39.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 70 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I74A. 70 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(iii)