F2Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi
9AF1Rheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraff
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—
a
diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;
b
darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;
c
darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;
d
darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.
3
Yn yr adran hon—
mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);
mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—
- a
llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a
- b
unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.
- a
croes bennawd wedi ei amnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(3)(b), Atod. 2 para. 17(2); O.S. 2023/1096, ergl. 2(e)