Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

[F1Gwaredu ar safle tirlenwi neu drwy losgi]LL+C

9Rheoliadau sy'n gwahardd gollwng gwastraff ar safle tirlenwiLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o ollwng mathau penodedig o wastraff ar safle tirlenwi yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â'i wahardd neu ei reoleiddio.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)–

(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac sy'n ymwneud â dull gweithredu safle tirlenwi;

(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â'r tramgwyddau hynny;

(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau'r awdurdodau hynny.

(3)Yn is-adran (1), mae i “safle tirlenwi” yr ystyr a roddir i “landfill” yn Erthygl 2(g) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC dyddiedig 26 Ebrill 1999 am dirlenwi gwastraff [F2, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan [F3Gyfarwyddeb (EU) 2018/850]] [F4, a’i darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2—

(i)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (a)—

(a)‘waste’ has the meaning given by Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive;;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (c)—

(c)‘hazardous waste’ has the meaning given in Article 3(2) of the Waste Framework Directive.;

(b)yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

[F59ARheoliadau sy’n gwahardd llosgi gwastraffLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gwahardd neu reoleiddio fel arall y weithred o losgi mathau penodedig o wastraff yng Nghymru, ac mewn cysylltiad â’i wahardd neu ei reoleiddio.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 sy’n ymwneud â gweithrediad peiriannau llosgi gwastraff neu beiriannau cydlosgi gwastraff;

(b)darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â darpariaeth a wnaed o dan y rheoliadau;

(c)darparu ar gyfer cosbau mewn perthynas â’r tramgwyddau hynny;

(d)darparu ar gyfer awdurdodau gorfodi a swyddogaethau’r awdurdodau hynny.

(3)Yn yr adran hon—

  • mae i “peiriant cydlosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste co-incineration plant” yn Erthygl 3(41) o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio);

  • mae i “peiriant llosgi gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste incineration plant” yn Erthygl 3(40) o’r Gyfarwyddeb honno;

  • ystyr “llosgi” (“incineration”) mewn perthynas â gwastraff, yw—

    (a)

    llosgi gwastraff mewn peiriant llosgi gwastraff neu beiriant cydlosgi gwastraff, a

    (b)

    unrhyw driniaethau thermol eraill i’r gwastraff cyn ei losgi.]

Diwygiadau Testunol

10Sancsiynau sifil mewn cysylltiad â [F6thramgwyddau a grëir gan reoliadau o dan adrannau 9 a 9A] LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 9(1) [F7neu 9A(1)] wedi ei arfer neu'n cael ei arfer yn y fath fodd ag i greu tramgwydd.

(2)[F8Caniateir arfer y pŵer i] wneud, mewn perthynas ag awdurdod gorfodi, ddarpariaeth y gellid ei gwneud drwy orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“RESA 2008”) fel pe byddai, at ddibenion Rhan 3 o'r Ddeddf honno–

(a)yr awdurdod gorfodi yn rheoleiddiwr, a

(b)y tramgwydd yn dramgwydd perthnasol mewn perthynas â'r rheoleiddiwr hwnnw.

[F9(3)Ond nid yw adrannau 39(4) a 42(6) o RESA 2008 yn gymwys i’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn rhinwedd is-adran (2).]

(4)Mae adrannau 63 i 69 o RESA 2008 yn gymwys [F10pan fo rheoliadau o dan adran 9(1) neu 9A(1) yn gwneud darpariaeth yn rhinwedd is-adran (2) fel y maent yn gymwys pan wneir darpariaeth] o dan Ran 3 o RESA 2008 neu yn rhinwedd y Rhan honno.

(5)At ddibenion is-adran (4), mae'r cyfeiriadau at “regulator” yn adrannau 63 i 69 o RESA 2008 i'w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod gorfodi.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw person sydd â swyddogaeth orfodi mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd drwy reoliadau o dan adran 9(1) [F11neu 9A(1) (fel y bo’n briodol)] .

Diwygiadau Testunol

F6Geiriau yn a. 10 teitl wedi eu hamnewid (18.10.2023) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), aau. 68(3), 88(3)(b); O.S. 2023/1096, ergl. 2(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 10 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

11YmgynghoriLL+C

(1)Cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 9 [F12neu 9A] , rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

(a)[F13Corff Adnoddau Naturiol Cymru];

(b)pob awdurdod lleol;

(c)unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy'n agored i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y rheoliadau ac y mae Gweinidogion Cymru'n barnu eu bod yn briodol;

(d)unrhyw bersonau eraill y maent yn barnu eu bod yn briodol.

F14(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 11 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)