xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o'r disgrifiadau canlynol–
(a)unigolyn sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
(b)unigolyn sy'n ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf honno;
(c)unigolyn sy'n glaf cymunedol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17A o'r Ddeddf honno;
(d)unigolyn sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
(2)Rhaid i asesiad iechyd meddwl sylfaenol gael ei gynnal mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9–
(a)os bydd y cynllun perthnasol yn darparu o dan adran 2(4)(b) fod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl gategorïau neu â chategorïau penodedig o unigolion y cyfeirir atynt yn is-adran (1);
(b)os bydd yr unigolyn yn dod o fewn y disgrifiad yn y cynllun o'r unigolion hynny y mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â hwy; a
(c)os gwneir atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon.
(3)Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.
(4)Yr amod cyntaf yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r unigolyn fel arfer yn preswylio.
(5)Yr ail amod yw bod y cais yn cael ei wneud gan aelod o staff sy'n dod o fewn categori a bennir yn y cynllun ar gyfer yr ardal awdurdod lleol honno o dan adran 2(5).