xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5CYFFREDINOL

48Dyletswydd i adolygu'r Mesur

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad y Mesur hwn at ddibenion cyhoeddi adroddiad neu adroddiadau yn unol ag is-adrannau (3) i (6).

(2)Cyn ymgymryd ag adolygiad o weithrediad unrhyw ran neu ddarpariaeth o'r Mesur, rhaid i Weinidogion Cymru eu bodloni eu hunain bod amser digonol wedi mynd heibio i'r rhan honno neu'r ddarpariaeth honno fod ar waith; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6).

(3)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 1 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 2(1), 3(1), 4(1), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) a 10(1) i (3).

(4)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 2 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 13(1), 16(1) ac 17(1) a (10).

(5)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 3 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 18(1) a (3), 19, 23(1) a (2), 25, 26(2) a 27(1) a (2).

(6)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 4 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn adran 130E(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y'i mewnosodwyd gan adran 31 o'r Mesur hwn.

(7)Caniateir cyhoeddi unrhyw ddau adroddiad neu ragor yn yr un ddogfen.

(8)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cychwyn” yw cychwyn ar gyfer unrhyw achos, dosbarth o achos, ardal neu ddiben.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw adroddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan is-adrannau (3) i (6) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.