(1)Os na fydd y partneriaid yn gallu cytuno ar drefniadau o dan adran 19–
(a)tra na bo cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal yr asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(a) a gwneud yr atgyfeiriadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(b);
(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;
(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y trefniadau ac, os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt eu cofnodi'n ysgrifenedig.
(2)Os bydd un partner yn dymuno newid y trefniadau, ond nad yw'r llall yn dymuno gwneud, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais i Weinidogion Cymru gan y naill bartner neu'r llall, newid y trefniadau i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n newid trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 21 mewn grym ar 6.6.2012 gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(j)