RHAN 2CYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Penodi cydgysylltwyr gofal

I1I216Darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal

1

Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) onid yw'r unigolyn yn gymwys i'w benodi'n gydgysylltydd gofal o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.

2

Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) o blith staff person arall heb gydsyniad y person hwnnw.

3

Onid yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru'n darparu fel arall, nid yw penodiad unigolyn yn gydgysylltydd gofal yn dod i ben o ganlyniad i newid darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol claf perthnasol fel y'i dynodir o dan adran 15.

4

Caiff darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol derfynu penodiad unigolyn a benodwyd yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1).