xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Valid from 06/06/2012

DiffiniadauLL+C

12Ystyr “claf perthnasol”LL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unigolyn yn glaf perthnasol os yw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn.

(2)Mae unigolyn nad yw'n dod o fewn is-adran (1) hefyd yn glaf perthnasol os–

(a)yw'r unigolyn o dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru; neu

(b)mae darparydd gwasanaeth iechyd meddwl wedi penderfynu y byddai gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cael ei ddarparu i'r unigolyn pe byddai'r unigolyn yn cydweithredu â'r ddarpariaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)

13Ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”LL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon, dyma'r darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl–

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)awdurdod lleol yng Nghymru.

(2)Ond nid yw Gweinidogion Cymru i'w trin fel rhai sy'n gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth a gaiff ei ddarparu wrth arfer swyddogaeth y mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 12(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)