Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010

2010 mccc 6

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch ymgysylltiad cymunedau â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru a ddylid gwaredu caeau chwarae; ac at ddibenion cysylltiedig.

1Ymgysylltiad cymunedau â gwarediadau gan awdurdodau lleol o gaeau chwaraeLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, trwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ymgysylltiad cymunedau â phenderfyniadau gan awdurdodau lleol am warediadau ganddynt o dir sy'n gae chwarae neu'n rhan o gae chwarae.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ymhlith pethau eraill–

(a)cymhwyso'r rheoliadau i fathau penodedig o warediadau;

(b)cymhwyso'r rheoliadau i warediadau o fathau penodedig o gae chwarae;

(c)gwneud gwarediad y mae'r rheoliadau yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i ymgynghoriad yn unol â'r rheoliadau;

(d)pennu'r personau neu'r categorïau o berson y mae'n rhaid ymgynghori â hwy, sef y personau hynny yr effeithir arnynt gan warediad neu sydd â buddiant mewn gwarediad, a'r gwarediad hwnnw yn un y mae'r rheoliadau yn gymwys iddo;

(e)darparu ar gyfer ffurf a dull yr ymgynghori;

(f)darparu ar gyfer rhoi hysbysiad am warediadau arfaethedig, gan gynnwys ffurf a dull yr hysbysiad;

(g)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am y canlynol yn cael ei darparu–

(i)effaith gwarediad arfaethedig ar unrhyw strategaeth, cynllun neu asesiad a bennir yn y rheoliadau, neu

(ii)unrhyw beth arall cysylltiedig â gwarediad arfaethedig;

(h)pennu ffurf a dull y mae'r wybodaeth i'w darparu ynddi ac ynddo;

(i)darparu bod rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliadau, roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru;

(j)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol;

(k)gwneud darpariaeth yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i eithriadau neu yn unig o ran achosion penodol neu ddosbarthau ar achosion penodol;

(l)gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, darpariaethau atodol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw–

    (i)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol,

    (ii)

    cyngor cymuned (gan gynnwys cyngor tref),

    (iii)

    awdurdod Parc Cenedlaethol;

  • ystyr “cae chwarae” (“playing field”) yw man agored sy'n cynnwys un neu fwy o ardaloedd sydd ar unrhyw adeg wedi'u marcio neu wedi'u neilltuo fel arall ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd hamddenol tebyg;

  • ystyr “gwarediad” (“disposal”) yw rhoi unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir neu wneud cytundeb i wneud hynny.

2Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C

(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) fel a ganlyn.

(2)Yn adran 123 (gwaredu tir gan y prif gynghorau)–

(a)yn is-adran (1), ar ôl “Subject to the following provisions of this section,” mewnosoder–

and to those of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010,,

(b)ar ôl is-adran (2A), mewnosoder–

(2AA)Subsection (2A) does not apply to a disposal to which the provisions of regulations made under section 1 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010 apply., ac

(c)yn is-adran (2B), ar ôl “by virtue of subsection (2A) above”, mewnosoder–

or in accordance with the provisions of regulations made under section 1 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010..

(3)Yn adran 127 (gwaredu tir gan blwyfi a chymunedau), yn is-adran (1), ar ôl “Subject to the following provisions of this section,” mewnosoder–

and to those of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010,.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 15.12.2010, gweler a. 5(2)

3Gwaredu caeau chwarae gan awdurdodau Parciau CenedlaetholLL+C

(1)Diwygir Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 8, ar ôl paragraff 1(1), mewnosoder–

(1A)The reference in sub-paragraph (1) to section 123 of the 1972 Act is to be interpreted as a reference to that section as amended by section 2 of the Playing Fields (Community Involvement in Disposal Decisions) (Wales) Measure 2010 in so far as that sub-paragraph applies to a National Park authority for a National Park in Wales..

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 15.12.2010, gweler a. 5(2)

4Trefn ar gyfer rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn gallu cael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.

5Enw byr a chychwynLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010.

(2)Daw'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod y'i cymeradwyir gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.