15Arfer swyddogaethau: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i'r Bwrdd, y tro cyntaf y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i argymhellion Panel Adolygu Annibynnol [F1Senedd] Cenedlaethol Cymru ar drefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i [F2Aelodau o’r Senedd] a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2009, i'r graddau y mae'r argymhellion hynny'n berthnasol i'r mater hwnnw.

(2)Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, yn cynnwys yn y penderfyniad hwnnw ddarpariaeth sydd, mewn unrhyw fodd, yn wahanol i'r argymhellion hynny, rhaid i'r Bwrdd ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros wneud hynny gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F1Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F1Senedd] osod gerbron y [F1Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (2) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F1Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (1) caiff y Bwrdd, pan fo'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i'r argymhellion hynny i'r graddau y mae'n ymddangos i'r Bwrdd eu bod yn dal yn berthnasol i'r mater hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf