xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1ANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD

1Mae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—

(a)aelod o'r Cynulliad,

(b)y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n aelod o'r Cynulliad),

(c)ymgeisydd i'w ethol yn aelod o'r Cynulliad,

(d)person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd aelod Cynulliad rhanbarthol yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),

(e)aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,

(f)aelod o staff y Cynulliad,

(g)aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru,

(h)person a gyflogir gan aelod o'r Cynulliad neu gan grŵp o aelodau'r Cynulliad er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau aelod o'r Cynulliad,

(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(j)Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

(k)aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y Cynulliad,

(l)person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y Cynulliad,

(m)person a oedd yn aelod o'r nail neu'r llall o'r panelu a apwyntiwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau aelodau o'r Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad ar 4 Gorffennaf 2007 ac 8 Mai 2008,

(n)person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

2At ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn aelod o'r Cynulliad—

(a)ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu

(b)ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r Cynulliad,

p'un bynnag fydd gyntaf.

3Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.