xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

1Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(1)Bydd Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Bwrdd”).

(2)Aelodau'r Bwrdd yw'r Cadeirydd a phedwar aelod arall.

(3)Os bydd swydd y Cadeirydd yn wag, neu os na all y Cadeirydd weithredu, caiff aelodau eraill y Bwrdd benodi un o'u plith yn Gadeirydd Dros Dro.

(4)Cworwm y Bwrdd yw tri.

(5)Ni chaiff y Bwrdd wneud yr un penderfyniad o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf oni bai bod y cynnig i wneud hynny wedi'i gymeradwyo gan o leiaf dri o aelodau'r Bwrdd.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5) ac i adran 2(2), mae'r Bwrdd i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(7)Nid yw'r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Bwrdd—

(a)swydd wag ymhlith yr aelodau, neu

(b)diffyg wrth benodi aelod.

2Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysol

(1)Nid yw'r Bwrdd, wrth arfer ei swyddogaethau, i fod o dan gyfarwyddyd na rheolaeth y Cynulliad na Chomisiwn y Cynulliad.

(2)Rhaid i'r Bwrdd—

(a)weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a

(b)cyhoeddi ar wefan y Cynulliad y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.

(4)Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—

(a)aelodau'r Cynulliad,

(b)staff a gyflogir gan aelodau'r Cynulliad (neu gan grwpiau o aelodau'r Cynulliad),

(c)undebau llafur perthnasol, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag aelodau'r Cynulliad, roi sylw i is-adran (1).

3Swyddogaethau'r Bwrdd

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), swyddogaethau'r Bwrdd yw'r rhai a roddir iddo gan adrannau 20, 22, 24, 53 a 54 o'r Ddeddf, fel y'i diwygir gan y Mesur hwn.

(2)Rhaid i'r Bwrdd arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wireddu'r amcanion canlynol—

(a)darparu lefel taliadau ar gyfer aelodau'r Cynulliad—

(i)sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, a

(ii)nad yw, ar sail ariannol, yn atal personau y mae ganddynt yr ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i'r Cynulliad,

(b)darparu adnoddau ar gyfer aelodau'r Cynulliad sy'n ddigonol i'w galluogi i arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Cynulliad, a

(c)sicrhau priodolder, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder o ran gwariant cyllid cyhoeddus.

(3)Rhaid i'r Bwrdd adolygu'n barhaus i ba raddau y mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n gwireddu'r amcanion a nodir yn is-adran (2), gan roi sylw i'r canlynol—

(a)y profiad a geir drwy roi penderfyniadau'r Bwrdd ar waith,

(b)newidiadau yn swyddogaethau aelodau'r Cynulliad, a

(c)unrhyw newidiadau perthnasol eraill yn yr amgylchiadau.

(4)Caiff y Bwrdd, o dro i dro, ystyried unrhyw fater arall sy'n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Clerc.

4Anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n cael eu hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd.

5Pŵer i ddiwygio Atodlen 1

(1)Mae'r adran hon yn effeithiol os bydd y Cynulliad yn penderfynu y dylid diwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)ychwanegu swydd neu ddisgrifiad o berson a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen honno,

(b)dileu swydd neu ddisgrifiad o berson o'r fath, neu

(c)newid disgrifiad swydd neu berson o'r fath.

(2)Caiff y Cwnsler Cyffredinol, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 er mwyn rhoi ei effaith i benderfyniad o'r fath.

(3)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol, pan y'i hysbysir yn ysgrifenedig gan y Llywydd bod y Cynulliad wedi gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)—

(a)arfer y pŵer a roddir iddo gan is-adran (2), a

(b)gwneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

6Penodi aelodau'r Bwrdd

(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd—

(a)i'w penodi gan Gomisiwn y Cynulliad, a

(b)i ddal eu swydd am gyfnod penodedig o bum mlynedd o ddyddiad eu priod benodiadau.

(2)Ni chaniateir penodi neb yn aelod o'r Bwrdd os yw'r person hwnnw eisoes wedi'i benodi'n aelod o'r Bwrdd ddwy waith.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Bwrdd.

7Terfynu aelodaeth o'r Bwrdd

Mae'r Cadeirydd neu unrhyw aelod arall o'r Bwrdd yn peidio â dal swydd—

(a)pan ddaw'r cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer i ben,

(b)os bydd y person hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gomisiwn y Cynulliad,

(c)os daw'r person hwnnw'n anghymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd, neu

(d)os bydd y Cynulliad yn penderfynu felly drwy gynnig a gynigir ar ran Comisiwn y Cynulliad gan aelod o Gomisiwn y Cynulliad, ar yr amod, os caiff y penderfyniad ei basio ar bleidlais, na fydd nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw o blaid y penderfyniad yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.

8Telerau ac amodau

(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd i ddal eu swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

(2)Comisiwn y Cynulliad sydd i bennu'r telerau a'r amodau hynny.

(3)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad dalu Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd unrhyw symiau y mae ganddynt hawl i'w cael o dan y telerau a'r amodau hynny.

9Cymorth gweinyddol

Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad ddarparu ar gyfer y Bwrdd unrhyw gymorth gweinyddol y mae'n rhesymol i'r Bwrdd ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.

10Cyfarfodydd y Bwrdd

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3) ac i adran 13(7), (8) a (9), mater i'r Bwrdd yw penderfynu pa bryd y bydd yn cyfarfod.

(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(3)Rhaid i'r Bwrdd, os bydd y Clerc yn gofyn iddo, gyfarfod er mwyn ystyried mater neu faterion penodol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau.

(4)Rhaid i gais o dan is-adran (3) fod mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu'r mater neu'r materion o dan sylw.

11Adroddiad blynyddol

Rhaid i'r Bwrdd, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, osod gerbron y Cynulliad adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau, gan gynnwys sut mae wedi defnyddio adnoddau, yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

12Penderfyniadau

(1)Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y Bwrdd o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf fod mewn ysgrifen.

(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfleu ei benderfyniadau i Gomisiwn y Cynulliad.

(3)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Bwrdd—

(a)ymgorffori'r penderfyniad hwnnw, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau eraill sydd i barhau mewn grym, mewn un ddogfen, a

(b)cyhoeddi'r ddogfen honno.

13Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau

(1)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor Cynulliad yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r Cynulliad ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r Cynulliad.

(2)Os bydd—

(a)etholiad cyffredinol anghyffredin i'r Cynulliad yn cael ei gynnal, a

(b)bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,

wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y Cynulliad yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y Cynulliad yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—

(a)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i aelodau'r Cynulliad), a

(b)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),

sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r Cynulliad.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.

(5)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y Cynulliad yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(6)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad osod gerbron y Cynulliad unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y Cynulliad y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(7)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor Cynulliad, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

(8)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor Cynulliad, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

(9)Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor Cynulliad cyn y tymor Cynulliad y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y Cynulliad—

(a)nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r Cynulliad, a

(b)pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.

14Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ad-dalu costau a ysgwyddwyd wrth gyflogi staff

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu costau a ysgwyddwyd gan aelodau'r Cynulliad (neu gan grwpiau o aelodau'r Cynulliad) wrth gyflogi staff.

(2)Os yw'r Bwrdd wedi gwneud penderfyniad sy'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae'r adran hon yn gymwys iddi, ni chaiff y Bwrdd, drwy benderfyniad dilynol, wneud unrhyw addasiad i'r ddarpariaeth honno mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r ddarpariaeth honno'n effeithiol mewn perthynas â hi (neu â rhan ohoni) gyntaf.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiad a osodir gan isadran (2) beidio â bod yn gymwys.

(4)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (3) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y Cynulliad yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(5)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad osod gerbron y Cynulliad unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (4) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y Cynulliad y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

15Arfer swyddogaethau: cyffredinol

(1)Rhaid i'r Bwrdd, y tro cyntaf y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i argymhellion Panel Adolygu Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar drefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau'r Cynulliad a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2009, i'r graddau y mae'r argymhellion hynny'n berthnasol i'r mater hwnnw.

(2)Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, yn cynnwys yn y penderfyniad hwnnw ddarpariaeth sydd, mewn unrhyw fodd, yn wahanol i'r argymhellion hynny, rhaid i'r Bwrdd ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros wneud hynny gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y Cynulliad yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(3)Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad osod gerbron y Cynulliad unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (2) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y Cynulliad y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (1) caiff y Bwrdd, pan fo'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i'r argymhellion hynny i'r graddau y mae'n ymddangos i'r Bwrdd eu bod yn dal yn berthnasol i'r mater hwnnw.

16Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Diwygir y Ddeddf yn unol ag Atodlen 3.

17Diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

(1)Diwygir Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) fel a ganlyn.

(2)Yn Rhan VI o Atodlen 1 (Cyrff a Swyddfeydd Cyhoeddus Eraill: Cyffredinol), mewnosoder, yn y lle priodol—

18Dehongli

Yn y Mesur hwn—

(a)ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),

(b)mae i unrhyw ymadroddion eraill sydd heb eu diffinio fel arall yn y Mesur hwn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.

19Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed

(1)Nid yw'r ffaith bod adran 16 yn dod i rym yn effeithio ar unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau'r canlynol—

(a)adrannau 20, 24 neu 53 o'r Ddeddf, neu

(b)adrannau 16, 18 neu 34A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).

(2)Mae unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan benderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath yn parhau mewn grym fel pe bai wedi'i gwneud gan y Bwrdd o dan adrannau 20, 24 neu 53 (yn ôl fel y digwydd) o'r Ddeddf fel y'i diwygir gan y Mesur hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at y Cynulliad neu at Gomisiwn y Cynulliad mewn penderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath fel cyfeiriadau at y Bwrdd, i'r graddau bod angen gwneud hynny er mwyn rhoi effaith i'r is-adran hon.

20Enw Byr a Chychwyn

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

(2)Daw adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 17, 18 a'r adran hon i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y gosodir hysbysiad o dan is-adran (4) gerbron y Cynulliad.

(4)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiadau cyntaf Cadeirydd a phedwar aelod arall y Bwrdd i gyd gael eu gwneud, osod gerbron y Cynulliad hysbysiad—

(a)o'r ffaith bod y penodiadau o dan sylw wedi'u gwneud,

(b)o enwau'r personau a benodwyd, a

(c)o'r ffaith y daw holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) i rym drannoeth y diwrnod y gosodir yr hysbysiad a hynny am fod yr hysbysiad yn cael ei osod.