Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010

2010 mccc 4

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i drosglwyddo i'r Bwrdd hwnnw swyddogaethau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â thaliadau aelodau'r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru, ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â hynny.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Mai 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 21 Gorffennaf 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

I11F7Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

1

Bydd F8bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (“y Bwrdd”).

2

Aelodau'r Bwrdd yw'r Cadeirydd a phedwar aelod arall.

3

Os bydd swydd y Cadeirydd yn wag, neu os na all y Cadeirydd weithredu, caiff aelodau eraill y Bwrdd benodi un o'u plith yn Gadeirydd Dros Dro.

4

Cworwm y Bwrdd yw tri.

5

Ni chaiff y Bwrdd wneud yr un penderfyniad o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf oni bai bod y cynnig i wneud hynny wedi'i gymeradwyo gan o leiaf dri o aelodau'r Bwrdd.

6

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5) ac i adran 2(2), mae'r Bwrdd i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

7

Nid yw'r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Bwrdd—

a

swydd wag ymhlith yr aelodau, neu

b

diffyg wrth benodi aelod.

I22Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysol

1

Nid yw'r Bwrdd, wrth arfer ei swyddogaethau, i fod o dan gyfarwyddyd na rheolaeth y F6Senedd na Chomisiwn y F6Senedd.

2

Rhaid i'r Bwrdd—

a

weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a

b

cyhoeddi ar wefan y F9Senedd y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.

3

Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.

4

Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—

a

F4Aelodau o’r Senedd,

b

staff a gyflogir gan F4Aelodau o’r Senedd (neu gan F4Aelodau o’r Senedd),

c

undebau llafur perthnasol, a

d

unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.

5

Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag F4Aelodau o’r Senedd, roi sylw i is-adran (1).

I33Swyddogaethau'r Bwrdd

1

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), swyddogaethau'r Bwrdd yw'r rhai a roddir iddo gan adrannau 20, 22, 24, 53 a 54 o'r Ddeddf, fel y'i diwygir gan y Mesur hwn.

2

Rhaid i'r Bwrdd arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wireddu'r amcanion canlynol—

a

darparu lefel taliadau ar gyfer F4Aelodau o’r Senedd

i

sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, a

ii

nad yw, ar sail ariannol, yn atal personau y mae ganddynt yr ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i'r F6Senedd,

b

darparu adnoddau ar gyfer F4Aelodau o’r Senedd sy'n ddigonol i'w galluogi i arfer eu swyddogaethau fel F5Aelodau o’r Senedd, a

c

sicrhau priodolder, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder o ran gwariant cyllid cyhoeddus.

3

Rhaid i'r Bwrdd adolygu'n barhaus i ba raddau y mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n gwireddu'r amcanion a nodir yn is-adran (2), gan roi sylw i'r canlynol—

a

y profiad a geir drwy roi penderfyniadau'r Bwrdd ar waith,

b

newidiadau yn swyddogaethau F4Aelodau o’r Senedd, a

c

unrhyw newidiadau perthnasol eraill yn yr amgylchiadau.

4

Caiff y Bwrdd, o dro i dro, ystyried unrhyw fater arall sy'n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Clerc.

I44Anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n cael eu hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd.

Annotations:
Commencement Information
I4

A. 4 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I55Pŵer i ddiwygio Atodlen 1

1

Mae'r adran hon yn effeithiol os bydd y F6Senedd yn penderfynu y dylid diwygio Atodlen 1 er mwyn—

a

ychwanegu swydd neu ddisgrifiad o berson a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen honno,

b

dileu swydd neu ddisgrifiad o berson o'r fath, neu

c

newid disgrifiad swydd neu berson o'r fath.

2

Caiff y Cwnsler Cyffredinol, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 er mwyn rhoi ei effaith i benderfyniad o'r fath.

3

Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

4

Rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol, pan y'i hysbysir yn ysgrifenedig gan y Llywydd bod y F6Senedd wedi gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)—

a

arfer y pŵer a roddir iddo gan is-adran (2), a

b

gwneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 5 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I66Penodi aelodau'r Bwrdd

1

Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd—

a

i'w penodi gan Gomisiwn y F6Senedd, a

b

i ddal eu swydd am gyfnod penodedig o bum mlynedd o ddyddiad eu priod benodiadau.

2

Ni chaniateir penodi neb yn aelod o'r Bwrdd os yw'r person hwnnw eisoes wedi'i benodi'n aelod o'r Bwrdd ddwy waith.

3

Mae Atodlen 2 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Bwrdd.

Annotations:
Commencement Information
I6

A. 6 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I77Terfynu aelodaeth o'r Bwrdd

Mae'r Cadeirydd neu unrhyw aelod arall o'r Bwrdd yn peidio â dal swydd—

a

pan ddaw'r cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer i ben,

b

os bydd y person hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gomisiwn y F6Senedd,

c

os daw'r person hwnnw'n anghymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd, neu

d

os bydd y F6Senedd yn penderfynu felly drwy gynnig a gynigir ar ran Comisiwn y F6Senedd gan aelod o Gomisiwn y F6Senedd, ar yr amod, os caiff y penderfyniad ei basio ar bleidlais, na fydd nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw o blaid y penderfyniad yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.

Annotations:
Commencement Information
I7

A. 7 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I88Telerau ac amodau

1

Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd i ddal eu swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

2

Comisiwn y F6Senedd sydd i bennu'r telerau a'r amodau hynny.

3

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd dalu Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd unrhyw symiau y mae ganddynt hawl i'w cael o dan y telerau a'r amodau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I8

A. 8 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I99Cymorth gweinyddol

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd ddarparu ar gyfer y Bwrdd unrhyw gymorth gweinyddol y mae'n rhesymol i'r Bwrdd ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.

Annotations:
Commencement Information
I9

A. 9 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I1010Cyfarfodydd y Bwrdd

1

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3) ac i adran 13(7), (8) a (9), mater i'r Bwrdd yw penderfynu pa bryd y bydd yn cyfarfod.

2

Rhaid i'r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

3

Rhaid i'r Bwrdd, os bydd y Clerc yn gofyn iddo, gyfarfod er mwyn ystyried mater neu faterion penodol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau.

4

Rhaid i gais o dan is-adran (3) fod mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu'r mater neu'r materion o dan sylw.

I1111Adroddiad blynyddol

Rhaid i'r Bwrdd, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, osod gerbron y F6Senedd adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau, gan gynnwys sut mae wedi defnyddio adnoddau, yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

I1212Penderfyniadau

1

Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y Bwrdd o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf fod mewn ysgrifen.

2

Rhaid i'r Bwrdd gyfleu ei benderfyniadau i Gomisiwn y F6Senedd.

3

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Bwrdd—

a

ymgorffori'r penderfyniad hwnnw, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau eraill sydd i barhau mewn grym, mewn un ddogfen, a

b

cyhoeddi'r ddogfen honno.

Annotations:
Commencement Information
I12

A. 12 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I1313Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau

1

Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor F6Senedd yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r F6Senedd ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r F6Senedd .

2

Os bydd—

a

etholiad cyffredinol anghyffredin i'r F6Senedd yn cael ei gynnal, a

b

bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,

wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y F6Senedd yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y F6Senedd yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.

3

Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—

a

un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i F4Aelodau o’r Senedd), a

b

un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),

sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r F6Senedd .

4

Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.

5

Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y F6Senedd yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

6

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd osod gerbron y F6Senedd unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y F6Senedd y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

7

Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor F6Senedd, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

8

Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor F6Senedd, wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

9

Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor F6Senedd cyn y tymor F6Senedd y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y F6Senedd

a

nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r F6Senedd, a

b

pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.

I1414Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ad-dalu costau a ysgwyddwyd wrth gyflogi staff

1

Mae'r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu costau a ysgwyddwyd gan F4Aelodau o’r Senedd (neu gan grwpiau o F4Aelodau o’r Senedd) wrth gyflogi staff.

2

Os yw'r Bwrdd wedi gwneud penderfyniad sy'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae'r adran hon yn gymwys iddi, ni chaiff y Bwrdd, drwy benderfyniad dilynol, wneud unrhyw addasiad i'r ddarpariaeth honno mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r ddarpariaeth honno'n effeithiol mewn perthynas â hi (neu â rhan ohoni) gyntaf.

3

Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiad a osodir gan isadran (2) beidio â bod yn gymwys.

4

Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (3) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y F6Senedd yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

5

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd osod gerbron y F6Senedd unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (4) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y F6Senedd y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

I1515Arfer swyddogaethau: cyffredinol

1

Rhaid i'r Bwrdd, y tro cyntaf y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i argymhellion Panel Adolygu Annibynnol F6Senedd Cenedlaethol Cymru ar drefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i F4Aelodau o’r Senedd a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2009, i'r graddau y mae'r argymhellion hynny'n berthnasol i'r mater hwnnw.

2

Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, yn cynnwys yn y penderfyniad hwnnw ddarpariaeth sydd, mewn unrhyw fodd, yn wahanol i'r argymhellion hynny, rhaid i'r Bwrdd ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros wneud hynny gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y F6Senedd yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

3

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd osod gerbron y F6Senedd unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (2) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y F6Senedd y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

4

Yn ddarostyngedig i is-adran (1) caiff y Bwrdd, pan fo'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i'r argymhellion hynny i'r graddau y mae'n ymddangos i'r Bwrdd eu bod yn dal yn berthnasol i'r mater hwnnw.

I1616Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Diwygir y Ddeddf yn unol ag Atodlen 3.

F1017Diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I1718Dehongli

Yn y Mesur hwn—

a

ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),

b

mae i unrhyw ymadroddion eraill sydd heb eu diffinio fel arall yn y Mesur hwn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.

Annotations:
Commencement Information
I17

A. 18 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I1819Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed

1

Nid yw'r ffaith bod adran 16 yn dod i rym yn effeithio ar unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau'r canlynol—

a

adrannau 20, 24 neu 53 o'r Ddeddf, neu

b

adrannau 16, 18 neu 34A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).

2

Mae unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan benderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath yn parhau mewn grym fel pe bai wedi'i gwneud gan y Bwrdd o dan adrannau 20, 24 neu 53 (yn ôl fel y digwydd) o'r Ddeddf fel y'i diwygir gan y Mesur hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at y F6Senedd neu at Gomisiwn y F6Senedd mewn penderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath fel cyfeiriadau at y Bwrdd, i'r graddau bod angen gwneud hynny er mwyn rhoi effaith i'r is-adran hon.

I1920Enw Byr a Chychwyn

1

Enw'r Mesur hwn yw Mesur F6Senedd Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

2

Daw adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 17, 18 a'r adran hon i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

3

Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y gosodir hysbysiad o dan is-adran (4) gerbron y F6Senedd .

4

Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiadau cyntaf Cadeirydd a phedwar aelod arall y Bwrdd i gyd gael eu gwneud, osod gerbron y F6Senedd hysbysiad—

a

o'r ffaith bod y penodiadau o dan sylw wedi'u gwneud,

b

o enwau'r personau a benodwyd, a

c

o'r ffaith y daw holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) i rym drannoeth y diwrnod y gosodir yr hysbysiad a hynny am fod yr hysbysiad yn cael ei osod.

Annotations:
Commencement Information
I19

A. 20 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

ATODLEN 1ANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD

(a gyflwynir gan adran 4)

I201

Mae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—

a

F3Aelod o’r Senedd,

b

y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n F3Aelod o’r Senedd),

c

ymgeisydd i'w ethol yn F3Aelod o’r Senedd,

d

person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd F12Aelod rhanbarthol o’r Senedd yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),

e

aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, F1... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,

f

aelod o staff y F6Senedd,

g

aelod o staff Llywodraeth F13... Cymru,

h

person a gyflogir gan F3Aelod o’r Senedd neu gan F14grŵp o Aelodau er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau F3Aelod o’r Senedd,

i

Archwilydd Cyffredinol Cymru,

j

Comisiynydd Safonau F15y Senedd,

k

aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y F6Senedd,

l

person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y F6Senedd,

F2m

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

n

person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth F16... Cymru.

I212

At ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn F3Aelod o’r Senedd

a

ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu

b

ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r F6Senedd,

p'un bynnag fydd gyntaf.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I223

Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

ATODLEN 2PENODI AELODAU'R BWRDD

(a gyflwynir gan adran 6(3))

I231

Rhaid i'r Clerc wneud trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w penodi'n Gadeirydd, ac yn aelodau eraill i'r Bwrdd.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I242

Caiff y trefniadau hynny—

a

eu diwygio o dro i dro, a

b

gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer penodiadau gwahanol a phenodiadau a wneir mewn amgylchiadau gwahanol.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I253

O ran y trefniadau hynny, rhaid i'r Clerc sicrhau—

a

nad ydynt yn cynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, na chan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â pherson o'r fath, a

b

eu bod, yn ddarostyngedig i is-baragraff (a), yn rhoi sylw priodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I264

Rhaid i'r Clerc beidio â rhoi eu heffaith i'r trefniadau mewn perthynas â phenodiad penodol oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi ar wefan y F11Senedd yn gyntaf a'u bod yn parhau i gael eu cyhoeddi tra bo'r broses o ddewis person i'w benodi i'r swydd yn mynd rhagddi.

I275

Rhaid i Gomisiwn y F6Senedd benodi'n Gadeirydd, neu'n aelod o'r Bwrdd, yn ôl fel y digwydd, unrhyw berson a ddetholir, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi i'r swydd honno.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

I286

Nid yw paragraff 3 yn gymwys os yw'n ymddangos i Gomisiwn y F6Senedd fod y person o dan sylw wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd o dan adran 3.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

ATODLEN 3DIWYGIO DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006

(a gyflwynir gan adran 16)

Adran 20

I291

Yn adran 20(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.

I302

Yn adran 20(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

I313

Yn adran 20(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

I324

Yn lle adran 20(6) rhowch—

6

Provision under this section is to be made by determination made by the Board.

I335

Ar ôl adran 20(6) rhowch—

7

The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.

8

In this section (and in sections 22, 24, 53 and 54) “the Board” means the National Assembly for Wales Remuneration Board established by section 1 of the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure 2010 (nawm 4 —).

Adran 22

I346

Yn adran 22(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission).”.

I357

Yn lle adran 22(3) rhowch—

3

The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 20(6) as soon as is reasonably practicable after it is made.

Adran 24

I368

Yn adran 24(1) hepgorwch “as the Assembly from time to time determines” ac yn ei le rhowch “as the Board from time to time determines”.

I379

Hepgorwch is-adran 24(4).

I3810

Yn lle is-adran 24(6) rhowch—

6

The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 24(1) as soon as is reasonably practicable after it is made.

I3911

Ar ôl is-adran 24(6) rhowch—

7

The Assembly Commission must ensure that information concerning the sums paid under this section is published for each financial year.

Adran 53

I4012

Yn adran 53(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.

I4113

Yn adran 53(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

I4214

Yn adran 53(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

I4315

Yn lle adran 53(7) rhowch—

7

Provision under this section is to be made by determination made by the Board.

I4416

Ar ôl adran 53(7) rhowch—

8

The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.

Adran 54

I4517

Yn adran 54(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission)”.

I4618

Yn lle adran 54(3) rhowch—

3

The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 53(7) as soon as is reasonably practicable after it is made.