xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 5)

ATODLEN 2LL+CTALU

RHAN 1LL+CCYFRIFO ARDOLL A THALU

1LL+CCaiff ardoll sy'n cael ei gosod ar gigyddwr neu allforiwr ei chyfrifo'n unol â'r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)

2LL+CMae ardoll yn cael ei chyfrifo drwy adio'r gwahanol elfennau canlynol at ei gilydd yn achos pob anifail a gigyddir neu a allforir—

(a)yr elfen gynhyrchu, a

(b)yr elfen gigydda neu allforio.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)

3(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu cyfradd yr elfen gynhyrchu a'r elfen gigydda neu allforio.LL+C

(2)Caiff Gweinidogion Cymru bennu gwahanol gyfraddau ar gyfer gwahanol achosion (gan gynnwys gwahanol ddisgrifiadau o gigyddwr neu allforiwr a gwahanol ddisgrifiadau o anifail).

(3)Caiff y cyfraddau a bennir o dan y paragraff hwn gynnwys cyfradd o ddim, ond ni chânt fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf a nodir yn yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)

4LL+CAt ddibenion y tablau a welir yn y paragraffau sy'n dilyn—

(a)mae llo yn anifail sy'n llai na chwe mis oed (yn achos anifail a allforir) neu anifail sydd a'i bwysau wedi iddo gael ei baratoi ar ôl ei gigydda yn llai na 68kg (yn achos anifail a gigyddwyd), a

(b)nid yw cyfeiriad at “wartheg” yn cynnwys lloi.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)

Cyfradd uchaf yr elfen gynhyrchuLL+C

5Ni chaiff yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail unigol fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf sydd wedi eu nodi yn y tabl canlynol—

[F1Yr AnifailCyfradd uchaf yr elfen gynhyrchu ar gyfer pob anifail
Gwartheg£6.91
Lloi£0.50
Defaid£1.00
Moch£1.67]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)

Cyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforioLL+C

6Ni chaiff yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail unigol fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf sydd wedi eu nodi yn y tabl canlynol—

[F2AnifailCyfradd uchaf yr elfen gigydda neu allforio ar gyfer pob anifail)
Gwartheg£ 2.12
Lloi£ 0.50
Defaid£ 0.32
Moch£ 0.40]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)

RHAN 2LL+CDYDDIADAU TALU

Talu'r ardoll gan gigyddwyr ac allforwyrLL+C

7Rhaid i gigyddwr neu allforiwr dalu ardoll sy'n cael ei gosod mewn perthynas â gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt mewn unrhyw fis o fewn 15 niwrnod i ddiwedd y mis hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)