Adran 10 – Darparu gwybodaeth am ffioedd
23.Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i'r rheini sy'n derbyn, neu a gaiff dderbyn, gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano a'r rheini y maent yn penderfynu codi ffi arnynt.
24.Mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddwyn yr wybodaeth ganlynol i sylw personau sy'n derbyn gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano neu a gaiff dderbyn gwasanaeth o’r fath:
gwybodaeth ynghylch pa wasanaethau y codir ffi amdanynt a'r rhai na chodir ffi amdanynt;
gwybodaeth ynghylch y “ffi safonol” am wasanaethau gwahanol (fel y’i diffinnir yn adran 7(4)); a
gwybodaeth ynghylch profi modd.
25.Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth bod yn rhaid darparu’r wybodaeth gyffredinol hon mewn ystod o fformatau hygyrch, a hynny’n rhad ac am ddim.
26.Mae is-adrannau (4) a (5) yn ymwneud â gwybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei rhoi i bersonau y maent yn penderfynu gosod ffi arnynt. Rhaid darparu'r wybodaeth hon yn ysgrifenedig ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y mae'r person yn rhesymol yn gwneud cais amdani. Rhaid ei darparu yn ddi-dâl, a chyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad penderfynu gosod neu newid ffi.