Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

42Pwerau arolyguLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

(a)arolygu'r fangre;

(b)arolygu, a chymryd copïau o'r canlynol—

(i)unrhyw gofnodion a gedwir gan y person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd, a

(ii)unrhyw ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch darparu'r gwasanaeth;

(c)ymafael yn unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall neu beth arall a geir yno a'u symud oddi yno y mae gan y person a awdurdodwyd sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu ofyniad a osodwyd gan neu o dan y Rhan hon;

(d)cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;

(e)arolygu unrhyw blant sy'n derbyn gofal yno, a'r trefniadau a wnaed er eu lles;

(f)cyfweld yn breifat â'r person sy'n darparu'r gwasanaeth gwarchod plant neu'r gofal dydd;

(g)cyfweld yn breifat ag unrhyw berson sy'n gofalu am blant, neu'n byw neu'n gweithio, yn y fangre sy'n cydsynio i gael ei gyfweld.

(2)Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—

(a)pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre neu sy'n atebol amdanynt i'w dangos, a

(b)o ran cofnodion a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur, pŵer i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu dangos ar ffurf sy'n eu gwneud yn ddarllenadwy ac y gellir eu cymryd oddi yno.

(3)Nid yw'r pŵer ym mharagraffau (b) ac (c) yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu

(b)i gymryd copïau o ddogfennau neu gofnodion o'r fath neu i ymafael ynddynt a'u symud oddi yno.

(4)Mewn cysylltiad ag arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath, caiff person a awdurdodwyd at ddibenion adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b))—

(a)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig ac arolygu a gwirio eu gweithrediad y mae'r person hwnnw'n ystyried sy'n cael eu defnyddio neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau, a

(b)ei gwneud yn ofynnol bod person sy'n dod o fewn is-adran (5) yn rhoi iddo'r cyfryw gymorth rhesymol ag y bo angen amdano at y diben hwnnw.

(5)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw'n berson y mae'r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio ganddo neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran, neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd neu fel arall yn ymwneud â'u gweithredu.

(6)Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre o dan adran 41 (yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir o dan adran 41(3)(b)) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn rhoi iddo'r cyfryw gyfleusterau a chymorth ynglyn â materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol i'w alluogi i arfer pwerau o dan adran 41 neu o dan yr adran hon.

(7)Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person sy'n arfer unrhyw bŵer o dan adran 41 neu o dan yr adran hon, neu

(b)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 42 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)