RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Arolygu

40Arolygu

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu—

a

ar gyfer arolygu gwarchod plant a ddarperir yng Nghymru gan bersonau cofrestredig a gofal dydd a ddarperir gan bersonau cofrestredig mewn mangreoedd yng Nghymru;

b

ar gyfer cyhoeddi adroddiadau o'r arolygiadau mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

2

Caiff y rheoliadau ddarparu bod yr arolygiadau yn cael eu trefnu—

a

gan Weinidogion Cymru, neu

b

gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, neu gan unrhyw berson arall, o dan drefniadau a wneir gyda Gweinidogion Cymru.

3

Caiff y rheoliadau ddarparu at ddibenion cyfraith difenwi bod unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliadau yn freintiedig oni ddangosir bod y cyhoeddiad wedi'i wneud yn faleisus.

4

Nid yw rheoliadau a wneir o dan is-adran (3) yn cyfyngu ar unrhyw fraint sy'n bodoli ar wahân i ddarpariaeth yn y cyfryw reoliadau.