RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT
Y broses gofrestru a gofynion cofrestru
I1I230Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.
2
Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—
a
lles a datblygiad y plant o dan sylw;
b
addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;
c
cymwysterau a hyfforddiant;
d
mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;
e
cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;
f
y gweithdrefnau i drafod cwynion;
g
goruchwylio staff;
h
cadw cofnodion;
i
darparu gwybodaeth.
3
Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—
a
gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu
b
mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.
4
Caiff rheoliadau ddarparu—
a
bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a
b
bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.