RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 3AROLYGU, CANLLAWIAU A CHYFARWYDDIADAU

Canllawiau a chyfarwyddiadau

18Cyfarwyddiadau

1

Mae'r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod unrhyw awdurdod Cymreig arall yn methu â chydymffurfio, neu'n debygol o fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd o dan adrannau 2, 7, 10, 11 neu 12.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod Cymreig i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn angenrheidiol neu'n hwylus i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y ddyletswydd berthnasol.

3

O ran cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

a

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

b

caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

c

mae'n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.