RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 2CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
Cyfleoedd chwarae
I111Dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant
I21
Rhaid i awdurdod lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn ei ardal yn unol â rheoliadau.
I22
Caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
y materion sydd i'w hystyried wrth asesu digonolrwydd;
b
y dyddiad erbyn pryd y mae asesiad cyntaf i'w gyflawni;
c
amlder asesiadau;
d
adolygu asesiadau;
e
cyhoeddi asesiadau.
I33
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i'w asesiad o dan is-adran (1).
I34
Rhaid i awdurdod lleol—
a
cyhoeddi gwybodaeth ynghylch cyfleoedd chwarae i blant yn ardal yr awdurdod, a
b
diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddir.
I25
Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymysg pethau eraill)—
a
i anghenion plant sy'n bobl anabl (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p. 50);
b
i anghenion plant o wahanol oedrannau.
I26
Yn yr adran hon—
mae “chwarae” yn cynnwys unrhyw weithgaredd hamdden;
ystyr “digonol”, mewn perthynas â chyfleoedd chwarae, yw digonol o ran nifer ac ansawdd.