Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009

15Tramgwyddau

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 12(1) yn cyflawni tramgwydd os yw'r person hwnnw —

(a)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad,

(b)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol, pan fo'n dod gerbron y Comisiynydd yn unol â gofynion yr hysbysiad, ag ateb unrhyw gwestiwn ynghylch y pynciau a bennwyd yn yr hysbysiad,

(c)yn gwrthod neu'n methu heb esgus rhesymol â chyflwyno unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyflwyno o dan yr hysbysiad, neu

(d)yn mynd ati'n fwriadol i newid, atal, celu neu ddinistrio unrhyw ddogfen o'r fath.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adran 14.

(3)Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn gwrthod tyngu llw neu roi cadarnhad pan fo'n ofynnol iddo wneud hynny o dan adran 13 yn cyflawni tramgwydd.

(4)Os bydd person a gyhuddir o dramgwydd o dan is-adran (1)(a), (b) neu (c) neu o dan is-adran (3) yn cyflwyno tystiolaeth o esgus rhesymol dros wrthod neu fethu, mater i'r erlyniad yw profi nad oedd gan y person esgus o'r fath.

(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr adran hon yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod —

(a)i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol,

(b)i gael ei garcharu am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis, neu

(c)i'r ddau.

(6)Os profir bod tramgwydd o dan yr adran hon wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn yn unol â hynny.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “cyfarwyddwr”, yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.