ATODLENComisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
I16Staff, nwyddau a gwasanaethau
1
Caiff y Comisiynydd, ar unrhyw delerau a bennir gan y Comisiynydd, benodi unrhyw staff neu sicrhau y darperir unrhyw nwyddau neu wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
2
Caiff y Comisiynydd wneud trefniadau gydag unrhyw gorff cyhoeddus neu ddeiliad swydd gyhoeddus, ar unrhyw delerau y bydd y Comisiynydd a'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw yn cytuno arnynt, i'r corff hwnnw neu'r deiliaid swydd hwnnw ddarparu unrhyw wasanaethau y mae'r Comisiynydd o'r farn eu bod yn angenrheidiol i helpu i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
3
Wrth arfer pwerau o dan is-baragraffau (1) a (2) neu o dan adran 11(3), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i gyfrifoldebau'r Clerc, yn rhinwedd ei swydd fel prif swyddog cyfrifyddu'r Comisiwn, o dan adran 138(3)(a) o'r Ddeddf.
4
O ran unrhyw rwymedigaeth y gall fod yn ofynnol i'r Comisiwn ei thalu o dan baragraff 5(3), rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Clerc a rhaid iddo wneud hynny—
a
os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, cyn ysgwyddo'r rhwymedigaeth o dan sylw,
b
os nad yw, cyn gynted wedyn ag y bydd yn rhesymol ymarferol.
5
Rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y Clerc pan ymgynghorir â'r Clerc o dan is-baragraff (4).
6
Gall dyletswydd y Comisiynydd i ymgynghori â'r Clerc o dan is-baragraff (4) gael ei chyflawni mewn perthynas â rhwymedigaeth benodol naill ai—
a
drwy roi manylion y rhwymedigaeth o dan sylw i'r Clerc, neu
b
drwy hysbysu'r Clerc y gallai rhwymedigaethau o ddisgrifiad penodol hyd at gyfanswm penodedig gael eu hysgwyddo,
ar yr amod, pan fo (b) yn gymwys, fod y rhwymedigaeth benodol o dan sylw yn dod o fewn y disgrifiad a hysbyswyd ac nad yw, o'i chymryd ynghyd ag unrhyw rwymedigaethau eraill y mae'r hysbysiad hwnnw'n cyfeirio atynt, yn fwy na'r cyfanswm a hysbyswyd.