8Dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu—
(a)ffactorau (“dangosyddion perfformiad”) y gellir eu defnyddio i fesur perfformiad awdurdod gwella Cymreig wrth iddo arfer ei swyddogaethau;
(b)safonau (“safonau perfformiad”) sydd i'w cyrraedd gan awdurdodau gwella Cymreig mewn perthynas â'r dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan baragraff (a).
(2)Caiff gorchymyn bennu gwahanol ddangosyddion perfformiad neu wahanol safonau perfformiad—
(a)ar gyfer gwahanol swyddogaethau;
(b)ar gyfer gwahanol awdurdodau neu wahanol ddisgrifiadau o awdurdod;
(c)i fod yn gymwys ar adegau gwahanol.
(3)Cyn pennu dangosyddion perfformiad neu safonau perfformiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—
(a)personau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau o dan sylw,
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru, a
(c)unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda i ymgynghori â hwy.
(4)Wrth benderfynu a ddylid pennu dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad, ac wrth eu penderfynu, rhaid i Weinidogion Cymru anelu at hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae swyddogaethau awdurdodau gwella Cymreig yn cael eu harfer.
(5)Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru ymwneud â'r angen am wella'r modd y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu harfer o ran o leiaf un o'r canlynol—
(a)effeithiolrwydd strategol;
(b)ansawdd gwasanaethau;
(c)argaeledd gwasanaethau;
(d)tegwch;
(e)cynaliadwyedd;
(f)effeithlonrwydd; ac
(g)arloesi.
(6)I gael ystyron paragraffau (a) i (g) o is-adran (5), gweler adran 4(2).
(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i arfer ei swyddogaethau fel bod unrhyw safon perfformiad gymwys a bennwyd o dan is-adran (1)(b) yn cael ei bodloni.