RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL
Strategaethau cymunedol
43Strategaethau cymunedol: gweithredu
1
Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol neu un o'i bartneriaid cynllunio cymunedol os yw'r strategaeth gymunedol gyfredol ar gyfer ardal yr awdurdod yn disgrifio—
a
cam sydd i'w gyflawni gan yr awdurdod neu bartner er mwyn bodloni amcan strategaeth gymunedol; neu
b
swyddogaeth sydd i'w harfer gan yr awdurdod neu bartner er mwyn bodloni amcan strategaeth gymunedol.
2
Rhaid i'r awdurdod neu'r partner cynllunio cymunedol gymryd pob mesur rhesymol i gyflawni'r cam neu arfer y swyddogaeth yn unol â'r strategaeth gymunedol.