RHAN 2STRATEGAETHAU CYMUNEDOL A CHYNLLUNIO CYMUNEDOL

Strategaethau cymunedol

42Strategaethau cymunedol: monitro

1

Rhaid i awdurdod lleol a'i bartneriaid cynllunio cymunedol sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud i fonitro—

a

y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd yr amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gymunedol gyfredol; a

b

effeithiolrwydd y camau sydd wedi eu cymryd a'r swyddogaethau sydd wedi eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny.

2

Dim ond i faterion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau y mae dyletswydd partner cynllunio cymunedol o dan is-adran (1) yn ymestyn.

3

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi o dro i dro (ond o leiaf unwaith bob dwy flynedd) ddatganiad sy'n disgrifio—

a

y cynnydd sydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd yr amcanion strategaeth gymunedol ar gyfer ei ardal; a

b

y camau sydd wedi eu cymryd a'r swyddogaethau sydd wedi eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny.

4

Mae'n ddyletswydd ar bob partner cynllunio cymunedol i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wybodaeth y mae ar yr awdurdod angen rhesymol amdani er mwyn galluogi'r awdurdod i gydymffurfio â'i ddyletswydd o dan is-adran (3).

5

Rhaid i'r datganiad cyntaf o dan is-adran (3) gael ei lunio o fewn dwy flynedd i'r dyddiad y cyhoeddir strategaeth gymunedol o dan adran 39(4).