41Adolygiadau o strategaeth gymunedol
(1)Mae'r adran hon yn nodi'r broses y mae'n rhaid i strategaeth gymunedol gael ei hadolygu drwyddi.
(2)Rhaid i awdurdod lleol ac, yn ddarostyngedig i is-adran (3), ei bartneriaid cynllunio cymunedol—
(a)drwy gymryd i ystyriaeth unrhyw ddatganiad a gyhoeddwyd o dan adran 42(3) er y dyddiad y cafodd y strategaeth gymunedol ei llunio neu (yn ôl y digwydd) y dyddiad y cwblhawyd yr adolygiad diwethaf ohoni, bwyso a mesur i ba raddau—
(i)y mae'r amcanion strategaeth gymunedol, sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth, wedi'u cyrraedd;
(ii)os nad yw amcan wedi'i gyrraedd, y mae cynnydd wedi'i wneud tuag at gyrraedd yr amcan;
(b)yng ngoleuni'r pwyso a mesur o dan baragraff (a) ac unrhyw ffactorau eraill y bydd yr awdurdod neu bartner yn meddwl eu bod yn briodol, pwyso a mesur—
(i)a ddylid addasu'r amcanion strategaeth gymunedol;
(ii)a ddylid gosod amcanion newydd;
(iii)a ddylai'r disgrifiad yn y strategaeth o'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn cyrraedd un o'r amcanion strategaeth gymunedol gael eu haddasu (p'un ai yng ngoleuni addasiad o amcan neu am unrhyw reswm arall);
(iv)pan fo'r awdurdod neu'r partner yn credu y dylai amcan newydd gael ei osod, pa gamau y dylid eu cymryd a pha swyddogaethau y dylid eu harfer er mwyn cyrraedd yr amcan.
(3)Dim ond i faterion sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau y mae dyletswydd partner cynllunio cymunedol o dan is-adran (2) yn ymestyn.
(4)Os caiff y gofyniad yn is-adran (5) ei fodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn sgil y pwyso a mesur sy'n ofynnol o dan is-adran (2), ddiwygio'r strategaeth gymunedol ar gyfer ei ardal drwy wneud y cyfan neu unrhyw rai o'r canlynol—
(a)addasu'r amcanion strategaeth gymunedol;
(b)gosod amcanion newydd;
(c)addasu'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn bodloni un o'r amcanion strategaeth gymunedol;
(d)disgrifio'r camau sydd i'w cymryd a'r swyddogaethau sydd i'w harfer er mwyn bodloni amcan newydd.
(5)Y gofyniad yw bod yr awdurdod o'r farn, mewn perthynas â diwygiad arfaethedig, bod maint y consensws ymhlith y partneriaid cynllunio cymunedol a'r awdurdod mewn perthynas â'r diwygiad yn golygu ei bod yn briodol gwneud y diwygiad.
(6)Rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo ddod yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan is-adran (4), gyhoeddi strategaeth gymunedol ddiwygiedig.