RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL
Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol Cymru
I1I2C127Ffioedd
1
Rhaid i F3Swyddfa Archwilio Cymr ragnodi graddfeydd ffioedd mewn cysylltiad â'r canlynol—
a
archwiliadau a gynhelir o dan adran 17;
b
asesiadau a gynhelir o dan adran 18;
c
arolygiadau arbennig.
2
Caniateir i raddfeydd gwahanol gael eu rhagnodi mewn cysylltiad â'r gweithgareddau gwahanol sydd wedi eu disgrifio yn is-adran (1), gwahanol fathau o'r un gweithgaredd a gwahanol fathau o awdurdod gwella Cymreig.
3
Yn ddarostyngedig i is-adran (4), rhaid i awdurdod sy'n cael ei archwilio, ei asesu neu ei arolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1), dalu i F4Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun i godi ffioedd a baratowyd o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, y ffi sy'n daladwy o dan y raddfa briodol.
4
Os yw'n ymddangos F5i Swyddfa Archwilio Cymru fod y gwaith a oedd ynghlwm wrth archwiliad, asesiad neu arolygiad penodol yn sylweddol fwy neu'n sylweddol llai na'r hyn a ragwelwyd yn ôl y raddfa briodol, caiff F5Swyddfa Archwilio Cymru godi ffi sy'n fwy neu'n llai na'r hyn y cyfeiriwyd ato yn is-adran (3).
F14A
Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi.
5
Cyn rhagnodi graddfa ffioedd o dan yr adran hon, rhaid F6i Swyddfa Archwilio Cymru ymgynghori â'r canlynol—
a
Gweinidogion Cymru, a
b
personau y mae'n ymddangos F6i Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn cynrychioli awdurdodau y caniateir eu harchwilio, eu hasesu neu eu harolygu fel sydd wedi ei grybwyll yn is-adran (1).
F26
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .