xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1GWELLA LLYWODRAETH LEOL

Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol Cymru

22Adroddiadau am arolygiadau arbennig

(1)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cynnal arolygiad arbennig, rhaid i'r Archwilydd ddyroddi adroddiad.

(2)O ran adroddiad—

(a)rhaid iddo grybwyll unrhyw fater y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn credu amdano, o ganlyniad i'r arolygiad, fod yr awdurdod yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon neu ei bod yn bosibl i'r awdurdod fethu yn y cyswllt hwnnw, a

(b)caiff argymell, os yw'n crybwyll mater o dan baragraff (a), fod Gweinidogion Cymru yn gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r ddau, sef—

(i)rhoi cymorth i'r awdurdod drwy arfer eu pwer o dan adran 28;

(ii)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 29.

(3)O ran yr Archwilydd Cyffredinol—

(a)rhaid iddo anfon copi o adroddiad at yr awdurdod o dan sylw ac at Weinidogion Cymru;

(b)os gwneir argymhelliad o dan is-adran (2)(b) mewn adroddiad, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu i'r argymhelliad gael ei gyhoeddi; a

(c)caiff gyhoeddi adroddiad ac unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad ag adroddiad.

(4)Os bydd adroddiad yn datgan bod yr Archwilydd Cyffredinol yn credu, o ganlyniad i arolygiad, fod awdurdod gwella Cymreig yn methu â chydymffurfio â gofynion y Rhan hon, rhaid i'r cynllun gwella nesaf a baratoir gan yr awdurdod gofnodi—

(a)y ffaith honno, a

(b)unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd, neu sydd i'w cymryd, gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adroddiad.

(5)Os bydd adroddiad yn ymwneud i unrhyw raddau â gweinyddiaeth budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor, a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn gweld yn dda i wneud hynny, rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol anfon copi o'r adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.