RHAN 4Amrywiol ac atodol

46Rheoliadau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm lleol

1

Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn a grybwyllir yn is-adran (2), cânt wneud darpariaeth drwy reoliadau, at ddibenion penodedig deddfiad, ynghylch yr amgylchiadau—

a

pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—

i

yn un y mae addysg yn cael ei darparu ar ei gyfer mewn ysgol;

ii

yn ddisgybl ofrestredig ysgol neu riant cofrestredig disgybl o'r fath;

iii

yn un sydd mewn ysgol;

iv

yn un sy'n mynychu ysgol neu'n bresennol ynddi;

v

yn un sy'n cael addysg mewn ysgol;

vi

yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, mewn ysgol;

vii

yn un sy'n cael ei dderbyn i ysgol neu y gwrthodwyd ei dderbyn i ysgol;

viii

yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i ysgol, yn cynnig derbyn person i ysgol, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i ysgol neu'n penderfynu derbyniadau i ysgol;

ix

yn un sydd wedi penderfynu ym mha ysgol y darperir addysg i blentyn;

x

yn un y caniateir codi taliadau ar ei gyfer ynghylch cael ei dderbyn i ysgol a gynhelir.

b

pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer darparu addysg ar ran ysgol i'w hystyried yn drefniadau derbyn;

c

pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer galluogi mynegi dymuniadau ynghylch ym mha ysgol y mae'r person sy'n mynegi'r dymuniad yn dymuno y darperir addysg ar ei gyfer ei hun neu ar gyfer person arall yn gymwys;

d

pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—

i

yn un sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach;

ii

yn un sy'n mynychu'r sefydliad hwnnw, neu'n bresennol ynddo;

iii

yn fyfyriwr y sefydliad hwnnw, neu'n fyfyriwr sydd ynddo;

iv

yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, yn y sefydliad hwnnw;

v

yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn cynnig derbyn person i'r sefydliad hwnnw, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn dethol person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw neu'n penderfynu derbyniadau i'r sefydliad hwnnw;

vi

mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw, yn berson anabl.

2

Y farn yw bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol, yn ddymunol neu'n hwylus mewn cysylltiad â gweithredu'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) gan Rannau 1 a 2 o'r Mesur hwn.

3

Mae'r dibenion y caniateir eu pennu o dan is-adran (1) yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â gwneud rheoliadau neu orchymyn o dan ddeddfiad.

4

Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad—

a

sydd wedi'i gynnwys yn y Mesur hwn; neu

b

sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf Seneddol neu un o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gaiff ei basio ar ôl pasio'r Mesur hwn.

47Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

48Gorchmynion a rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchymyn o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw bŵer o'r fath yn cynnwys pŵer—

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol;

b

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

c

i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

3

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

49Cychwyn

1

Daw adrannau 46, 48, 50 a'r adran hon i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

2

Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu drwy orchymyn. Caniateir i ddiwrnodau gwahanol gael eu pennu at ddibenion gwahanol.

50Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.