Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

RHAN 4Amrywiol ac atodol

46Rheoliadau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm lleol

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn a grybwyllir yn is-adran (2), cânt wneud darpariaeth drwy reoliadau, at ddibenion penodedig deddfiad, ynghylch yr amgylchiadau—

(a)pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—

(i)yn un y mae addysg yn cael ei darparu ar ei gyfer mewn ysgol;

(ii)yn ddisgybl ofrestredig ysgol neu riant cofrestredig disgybl o'r fath;

(iii)yn un sydd mewn ysgol;

(iv)yn un sy'n mynychu ysgol neu'n bresennol ynddi;

(v)yn un sy'n cael addysg mewn ysgol;

(vi)yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, mewn ysgol;

(vii)yn un sy'n cael ei dderbyn i ysgol neu y gwrthodwyd ei dderbyn i ysgol;

(viii)yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i ysgol, yn cynnig derbyn person i ysgol, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i ysgol neu'n penderfynu derbyniadau i ysgol;

(ix)yn un sydd wedi penderfynu ym mha ysgol y darperir addysg i blentyn;

(x)yn un y caniateir codi taliadau ar ei gyfer ynghylch cael ei dderbyn i ysgol a gynhelir.

(b)pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer darparu addysg ar ran ysgol i'w hystyried yn drefniadau derbyn;

(c)pan fo, neu pan na fo, trefniadau ar gyfer galluogi mynegi dymuniadau ynghylch ym mha ysgol y mae'r person sy'n mynegi'r dymuniad yn dymuno y darperir addysg ar ei gyfer ei hun neu ar gyfer person arall yn gymwys;

(d)pan fo, neu pan na fo, person i'w ystyried—

(i)yn un sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach;

(ii)yn un sy'n mynychu'r sefydliad hwnnw, neu'n bresennol ynddo;

(iii)yn fyfyriwr y sefydliad hwnnw, neu'n fyfyriwr sydd ynddo;

(iv)yn un sy'n astudio, neu'n bwriadu astudio, yn y sefydliad hwnnw;

(v)yn un sy'n gwneud cais i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn cynnig derbyn person i'r sefydliad hwnnw, yn derbyn neu'n gwrthod derbyn cais person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw, yn dethol person i gael ei dderbyn i'r sefydliad hwnnw neu'n penderfynu derbyniadau i'r sefydliad hwnnw;

(vi)mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw, yn berson anabl.

(2)Y farn yw bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol, yn ddymunol neu'n hwylus mewn cysylltiad â gweithredu'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) gan Rannau 1 a 2 o'r Mesur hwn.

(3)Mae'r dibenion y caniateir eu pennu o dan is-adran (1) yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â gwneud rheoliadau neu orchymyn o dan ddeddfiad.

(4)Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad—

(a)sydd wedi'i gynnwys yn y Mesur hwn; neu

(b)sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf Seneddol neu un o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gaiff ei basio ar ôl pasio'r Mesur hwn.

47Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

48Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchymyn o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer o'r fath yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

49Cychwyn

(1)Daw adrannau 46, 48, 50 a'r adran hon i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu drwy orchymyn. Caniateir i ddiwrnodau gwahanol gael eu pennu at ddibenion gwahanol.

50Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.