Trefniadau teithio i ddysgwyr
I1I22Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr
1
Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â—
a
dysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;
b
dysgwyr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac sydd wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;
c
y cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.
2
Ym mhob blwyddyn academaidd, rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion teithio dysgwyr ei ardal ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.
3
At ddibenion is-adran (2), anghenion dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod am gael trefniadau teithio addas bob dydd i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno yw “anghenion teithio dysgwyr” ardal awdurdod lleol.
4
Wrth wneud asesiad o dan is-adran (2) rhaid i awdurdod lleol roi sylw yn benodol i—
a
anghenion dysgwyr sy'n bersonau anabl,
b
anghenion dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu,
c
anghenion dysgwyr sy'n blant ac sy'n derbyn gofal, neu a fu gynt yn derbyn gofal, gan awdurdod lleol,
d
oed dysgwyr, ac
e
natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddysgwyr eu dilyn i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant.