Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

17Cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arallLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Rhaid i awdurdod lleol roi i awdurdod lleol arall unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol arall ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 2, 3, 4 a 6.

(3)Rhaid i awdurdod lleol roi i bennaeth ysgol berthnasol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar bennaeth ei hangen neu ei angen ynghylch ymddygiad disgybl cofrestredig yn ei ysgol tra oedd y disgybl yn manteisio ar drefniadau teithio a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan y Mesur hwn.

(4)Rhaid i bennaeth ysgol berthnasol roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar yr awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 14.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 17(1)(2) mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I3A. 17(3) mewn grym ar 1.9.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2