F1Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr

Annotations:
Amendments (Textual)
F1

A. 14B ac cross-heading wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), aau. 2, 16(2)

14LF2Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid

1

Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r corff corfforaethol, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â'r corff corfforaethol ei hun.

2

Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â'r bartneriaeth ei hun.