xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dulliau teithio cynaliadwyLL+C

11Dulliau teithio cynaliadwyLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu'r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Dulliau teithio yw “dulliau teithio cynaliadwy” y mae'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) o'r farn eu bod yn ddulliau a all wella'r naill beth a ganlyn neu'r llall neu'r naill beth a ganlyn a'r llall sef—

(a)llesiant corfforol y rhai sy'n eu defnyddio;

(b)llesiant amgylchedd—

(i)ardal gyfan yr awdurdod lleol neu ran ohoni, yn achos awdurdod, neu

(ii)Cymru gyfan neu ran ohoni, yn achos Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 11 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1